Aberystwyth G-G Y Bala

Gohiriwyd y gêm gan fod carfan Y Bala yn gorfod hunan-ynysu am 14 diwrnod wedi i dri o chwaraewyr eu gwrthwynebwyr diwethaf, Pen-y-bont, brofi’n bositif am COVID-19.

 

 

Cei Connah 2-1 Derwyddon Cefn

Cael a chael a oedd hi i Gei Connah yn y diwedd wrth iddynt drechu Derwyddon Cefn yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy nos Wener.

Cododd y pencampwyr i’r ail safle yn y tabl gyda buddugoliaeth glos yn erbyn y tîm ar y gwaelod.

Chwarae Poole

Roedd hi’n ymddangos ei bod hi am fod yn noson hawdd i Gei Connah wrth i’r Nomadiaid ruthro ar y blaen gyda dwy gôl yn yr hanner cyntaf.

Peniodd Mike Wilde hwy ar y blaen o groesiad Declan Poole wedi chwarter awr ac roedd Poole yn ei chanol hi eto toc cyn yr egwyl, yn ennill ac yn cymryd cic rydd a arweiniodd at gôl i’w rwyd ei hun gan Ryan Kershaw.

Faux-pas

Ar ôl edrych yn gyfforddus, bu’n rhaid i Gei Connah oroesi hanner awr olaf digon nerfus ar ôl ildio gôl wael toc wedi’r awr.

Mae amddiffynnwr canol y Nomadiaid, George Horan, yn 38 mlwydd oed ond roedd yn edrych yn nes at 83 wrth i Josef Faux loncian heibio iddo ar ei ffordd i’r cwrt cosbi. Doedd ymdrechion Oliver Byrne, a oedd yn chwarae yn y gôl oherwydd gwaharddiad Lewis Brass, yn fawr gwell wrth i Faux lithro’r bêl trwy’i goesau.

Faux pas go iawn gan y pencampwyr ond roeddynt yn ddigon cryf i ddal eu gafael ar y tri phwynt wedi hynny.

 

 

Hwlffordd 0-3 Y Fflint

Enillodd y Fflint am y tro cyntaf ers mis Medi wrth iddynt wneud un o’r teithiau hiraf yn y Cymru Premier i herio Hwlffordd brynhawn Sadwrn.

Wedi dechrau da i’r tymor, nid oedd y Gwŷr Sidan wedi ennill ers trydedd gêm y tymor, ond newidiodd hynny gyda buddugoliaeth gyfforddus yn Sir Benfro.

Blerwch

Mae gôl-geidwad Hwlffordd, Matthew Turner, ar fenthyg o Leeds ond go brin y bydd y tîm o Uwch Gynghrair Lloegr ar frys i’w groesawu yn ôl ar sail y perfformiad hwn. Roedd y golwr ifanc ar fai wrth i Alex Jones fanteisio ar lanast amddiffynnol yn y cwrt cosbi i roi’r Fflint ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf.

Dyblwyd mantais yr ymwelwyr yn gynnar yn yr ail hanner wrth i seren y gêm, Connor Harwood, ddawnsio’i ffordd trwy’r amddiffyn i sgorio gôl unigol dda.

Clwstwr coch

Cafwyd clwstwr o gardiau coch ar ôl hynny wrth i’r ddau dîm golli eu disgyblaeth. Anfonwyd Alaric Jones a Kieron Lewis am gawod gynnar i Hwlffordd, o boptu i amddiffynnwr profiadol y Fflint, Wes Baynes.

Yn naturiol, gyda deg dyn yn erbyn naw fe agorodd y gêm yn y munudau olaf a doedd fawr o syndod gweld yr eilydd, Ben Steer yn llywio’r bêl heibio i Turner ac i gefn y rhwyd.

Gwahaniaeth goliau yn unig sydd bellach yn cadw’r Fflint yn safleoedd y gwymp.

 

 

Met Caerdydd 0-1 Y Seintiau Newydd

Un gôl yn unig a gafwyd, a honno i’r rhwyd anghywir, ar Gampws Cyncoed brynhawn Sadwrn wrth i’r Seintiau Newydd deithio i’r brifddinas i wynebu Met Caerdydd.

Roedd hi’n bell o fod yn glasur a daeth eiliad mwyaf adloniannol y gêm cyn y chwiban gyntaf wrth i reolwr Met, Dr Christian Edwards, arddangos ychydig o’r sgiliau a enillodd iddo un cap dros Gymru yn 1996.

Y gôl

Nid oedd cywreinrwydd cyn gêm Christian yn perthyn i’r un gôl a setlodd y gêm. Wedi hanner cyntaf di sgôr, y Seintiau a aeth â hi yn yr ail hanner wedi i Liam Black ben-glinio’r bêl i’w rwyd ei hun o gic gornel Jamie Mullan.

Mae’r canlyniad yn cynnal mantais y Seintiau o chwe phwynt ar y brig ac yn cadw Met yn nawfed yn y tabl, gyda gwahaniaeth goliau yn unig yn eu cadw allan o safleoedd y gwymp.

 

 

Pen-y-bont 0-0 Caernarfon

Gohiriwyd y gêm gan fod carfan Pen-y-bont yn gorfod hunan-ynysu am 14 diwrnod wedi i dri chwaraewr brofi’n bositif am COVID-19.

 

 

Y Barri 0-0 Y Drenewydd

Bu’n rhaid i Sgorio newid eu gêm fyw’r penwythnos hwn oherwydd y gohirio ym Mhen-y-bont ac er i’r camerâu weld gêm go lew rhwng y Barri a’r Drenewydd, di sgôr a orffennodd hi ar Barc Jenner.

Cyfleodd i’r ddau dîm

Daeth dau gyfle gorau’r hanner cyntaf yn y deg munud olaf cyn yr egwyl. Tarodd Nat Jarvis ergyd dda yn erbyn y trawst i’r Barri ac roedd angen tacl eiliad olaf dda gan Luke Cooper i atal James Davies rhag rhoi’r Drenewydd ar y blaen.

Roedd hi’n gêm fwy agored wedi’r egwyl a chafwyd cyfleoedd gwell i’r ddau dîm. Gwastraffodd yr arferol ddibynadwy, Kayne McLaggon, ddau gyfle gorau’r tîm cartref a chafwyd arbediad da gan Mike Lewis i atal Neil Mitchell yn y pen arall.

Lewis lwcus!

Os wnaeth Lewis yn dda i gadw ei dîm yn y gêm cyn hynny, roedd y gôl-geidwad yn ffodus i aros ar y cae am y deg munud olaf.

Roedd hi’n ymddangos fod y golwr eratig wedi llawio’r bêl y tu allan i’r cwrt cosbi ar ôl rhuthro allan ond nid felly y gwelodd y ddyfarnwraig, Cheryl Foster, bethau.

Fe allai hynny fod wedi arwain at gerdyn coch, ac o ystyried fod Gavin Chesterfield eisoes wedi defnyddio tri eilydd, fe fyddai hynny wedi gwneud deg munud olaf hynod ddiddorol! Ond aros rhwng y pyst a wnaeth Lewis ac aros yn gyfartal a wnaeth y sgôr.

 

 

Gwilym Dwyfor