Roedd perfformiad Cymru ymhell o fod yn berffaith yn erbyn Georgia yn ôl Prif Hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac.

“Rwy’n credu’n gyffredinol ein bod ni wedi cymryd cam i’r cyfeiriad cywir,” meddai mewn cynhadledd i’r wasg ar ôl i Gymru guro Georgia 18-0.

“Cafwyd rhai perfformiadau da, ond roedd ein perfformiad ymhell o fod yn berffaith.”

Ar ôl colli chwe gêm yn olynol dyma oedd buddugoliaeth gyntaf Cymru ers curo’r Eidal fis Chwefror, a dim ond yr ail fuddugoliaeth ryngwladol i Pivac wrth y llyw.

Tywydd garw Llanelli wedi amharu ar y chwarae

Awgrymodd Prif Hyfforddwr Cymru fod y tywydd garw yn Llanelli wedi amharu rhywfaint ar ffordd newydd Cymru o chwarae.

“Ar ddiwrnod sychach, mae’n bosib y byddem wedi bod yn fwy peryglus,” meddai.

“Byddai wedi bod yn braf cael tywydd ychydig yn well mae’n siŵr.

“Nid dyma’r amodau gorau i ni symud a thrafod pêl – ond chwaraeodd y chwaraewyr ifanc a’r rhai enillodd eu capiau cyntaf yn dda, gan gyfrannu tipyn i’r gêm.

“Roedd hynny yn braf i’w weld.”

Ennillodd Kieran Hardy, Johnny Williams, James Bothan ac Ioan Lloyd eu capiau cyntaf yn ystod y gêm.

Tipuric i’w weld yn iawn

Ychwanegodd Wayne Pviac fod capten Cymru, Justin Tipuric, i’w weld yn iawn ar ôl y gêm.

Bu rhaid i’r blaenasgellwr profiadol adael y cae ar ôl cael anaf i’w ben yn ystod yr ail hanner.

“Dw i newydd ei weld yn sgwrsio yn y coridor nawr.

“Yn anffodus, fe ddaeth y digwyddiad a diwedd i’w gêm.

“Mae’n ddigwyddiad sydd, yn fy marn i, yn gwarantu mwy na cherdyn melyn.”

Bydd Cymru yn croesawu Lloegr i Lanelli’r penwythnos nesaf.