Mae Liam Cullen, ymosodwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi gwireddu breuddwyd wrth ddechrau gêm am y tro cyntaf yn erbyn y tîm y bu’n fasgot yn eu herbyn 14 o flynyddoedd yn ôl.

Cafodd y chwaraewr o Ddinbych y Pysgod ei enwi yn y tîm am y tro cyntaf i herio Rotherham yn y Bencampwriaeth ddoe (dydd Sadwrn, Tachwedd 21).

Yn saith oed, Cullen oedd wedi arwain y timau allan i’r cae, ochr yn ochr â’r capten Alan Tate, ar Ebrill 17, 2006.

Mae Tate bellach yn aelod o’r tîm hyfforddi.

Er i’r Elyrch golli o 2-0 y diwrnod hwnnw, roedden nhw’n fuddugol ddoe o 1-0 ac fe wnaeth Cullen greu argraff gan achosi rhai problemau i amddiffyn yr ymwelwyr.

‘Gwaith oes’

“Mae bron iawn yn waith oes ar gyfer diwrnodau fel dydd Sadwrn,” meddai Liam Cullen, oedd wedi sgorio’r gôl fuddugol i guro Reading wrth i’r Elyrch lwyddo i gyrraedd y gemau ail gyfle y tymor diwethaf.

“Mae gwneud hynny yng nghlwb fy mebyd – y clwb ces i fy magu yn eu cefnogi ar hyd fy oes – yn gwireddu breuddwyd, a bod yn onest.

“Pan ges i wybod fy mod i’n dechrau, fe wnes i sôn wrth Shaun Baggridge, oedd yn rhan o’n tîm citiau, mai’r tro cyntaf erioed i fi gamu ar gae’r Liberty oedd pan o’n i’n fasgot yn erbyn Rotherham.

“Fe wnes i gerdded allan gyda Tatey y diwrnod hwnnw pan o’n i’n saith oed.

“Mae’n dipyn o gyd-ddigwyddiad fy mod i’n dechrau am y tro cyntaf yn erbyn Rotherham hefyd.

“Fe wnaethon ni golli’r diwrnod hwnnw, felly do’n i ddim yn hapus iawn.

“Ro’n i eisiau sicrhau ein bod ni’n cwblhau’r gwaith [y tro hwn] a diolch byth, fe wnaethon ni.

“Unwaith ges i fewn i gyrion y tîm cyntaf ym mis Ionawr, dw i wedi gweithio’n galed bob dydd fyth ers hynny.

“Dw i’n falch fy mod i wedi cyrraedd o’r diwedd a gobeithio y galla i fwrw iddi nawr a chadw i fynd.

“Dw i jyst eisiau parhau i chwarae pêl-droed i Abertawe.

“Dyna dw i wedi bod eisiau ei wneud ar hyd fy oes.

“Dw i’n caru’r clwb a dw i jyst eisiau mwynhau chwarae iddyn nhw.

“Dw i ddim wir yn edrych y tu hwnt i hynny.

“Gobeithio, fel ymosodwr, y daw’r goliau a’r creu hefyd.

“Dw i’n sicr yn credu ynof fi fy hun; dw i’n dod yn fwy hyderus bob dydd, felly gobeithio y bydd y dyfodol yn un cyffrous.”