Roedd y Gweilch ar ei hôl hi o 15 pwynt yn eu gêm PRO14 yn erbyn Benetton yn San Helen cyn taro’n ôl i ennill o 24-22.

Sgoriodd Ifan Phillips, Shaun Venter a Dewi Lake geisiau, tra bod Stephen Myler wedi cicio naw o bwyntiau.

Sgoriodd Hame Faiva hatric o geisiau i’r ymwelwyr wrth i Ian Keatley gicio saith pwynt.

Cafodd Jayden Hayward, cefnwr Benetton, gerdyn melyn yn gynnar yn y gêm am daro’r bêl i lawr yn anghyfreithlon wrth i George North fylchu.

Sgoriodd Phillips gais o’r lein a ddilynodd, a Stephen Myler yn trosi.

Tarodd Faiva yn ôl gyda’i gais cyntaf, a’r trosiad yn dod wedyn oddi ar droed Keatley.

Roedd y Gweilch ar y blaen o 10-7 ar yr egwyl yn dilyn cic gosb Myler o 40 metr.

Ail hanner

Brwydrodd Benetton yn galed ar ddechrau’r ail hanner, a chafodd y blaenasgellwr Will Griffiths ei anfon i’r cell cosb am drosedd o’r lein.

Manteisiodd yr ymwelwyr ar hynny wrth i Faiva groesi am ei ail gais, er i Keatley fethu â’r trosiad cyn cicio cic gosb ar ôl i Mat Protheroe gael ei gosbi am fethu â gadael chwaraewr yn rhydd o’r dacl.

Roedd y Gweilch i lawr i 14 dyn yn barhaol gyda hanner awr yn weddill, wrth i’r wythwr Gareth Evans gael ei anfon o’r cae am daro pen Cherif Traore â’i ysgwydd, ac fe aeth yr Eidalwyr ar y blaen o 22-10 gyda 22 o funudau’n weddill.

Bu bron i Ratuva Tavuyara groesi ar ôl cic fach bwt dros yr amddiffyn ond ar ôl cyfnod o bwysau, croesodd Faiva am ei drydydd cais, a Keatley yn trosi.

Sgoriodd y Gweilch yn y deg munud olaf wrth i’r eilydd o fewnwr Venter groesi yn dilyn bylchiad grymus y canolwr Kieran Williams, a Myler yn trosi unwaith eto.

Cafodd prop yr ymwelwyr, Filippo Alongi gerdyn melyn am dacl flêr yn y munudau olaf, ac fe ddaeth cais y bachwr Lake ar yr adeg iawn i’r Gweilch wrth iddyn nhw unioni’r sgôr oddi ar y lein.

Ciciodd Myler y trosiad i’w gwneud hi’n 24-22.