Mae Ryan Giggs, rheolwr tîm pêl-droed Cymru, ar fechnïaeth eto wrth i’r ymchwiliad i ymosodiad honedig ar ei gariad barhau ym Manceinion Fwyaf.

Mae’n gwadu’r cyhuddiad, ac fe gamodd o’r neilltu ar gyfer gemau Cymru’n ddiweddar, gyda Robert Page yn camu i’r bwlch.

Ddechrau’r mis, roedd adroddiadau bod Giggs wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar ei gariad, ar ôl i Heddlu Manceinion Fwyaf gadarnhau iddyn nhw gael eu galw i eiddo ger Salford ar Dachwedd 1.

Cafodd dynes yn ei 30au “fan anafiadau” ond doedd dim rhaid iddi dderbyn triniaeth.

Cafodd dyn 46 oed ei arestio ar amheuaeth o ymosod a’i ryddhau ar fechnïaeth, yn ôl yr heddlu.

Daeth cadarnhad wedyn gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru eu bod nhw’n “ymwybodol o ddigwyddiad” a’i fod e wedi camu o’r neilltu ar gyfer y gemau yn erbyn yr Unol Daleithiau, Gweriniaeth Iwerddon a’r Ffindir.