Mae sêr pêl-droed Cymru ymhlith rhai o’r wynebau cyfarwydd sy’n annog pobol i ddangos eu cefnogaeth i’r Urdd.

Mae’r ymgyrch ‘Het i Helpu’ yn bwriadu troi Cymru yn goch, gwyn a gwyrdd y gaeaf hwn ac yn gyfle i bobol ddangos eu cefnogaeth i’r mudiad yn ystod y cyfnod heriol iddynt.

O ganlyniad i Covid-19, mae’r Urdd yn wynebu’r cyfnod mwyaf heriol yn hanes ymudiad.

Mae’r mudiad yn disgwyl gwneud gostyngiad incwm o £14 miliwn yn ystod y ddwy flynedd nesaf a cholledion o dros £3.4 miliwn.

Cafodd holl wasanaethau’r Urdd eu cau fis Mawrth ynghyd â gohirio Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych. Mae Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, Sian Lewis, hefyd wedi dweud wrth bwyllgor yn y Senedd ei bod hi’n ‘annhebygol’ bydd Eisteddfod yr Urdd yn gallu cael ei chynnal y flwyddyn nesaf.

Yn ogystal a hyn mae’r mudiad wedi colli 49% o’i gweithlu.

‘Blwyddyn ddinistriol’

Disgrifiodd Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd, y flwyddyn ddiwethaf fel un “ddinistriol” i’r mudiad.

“Rydym wedi’n taro’n galed gan effeithiau’r pandemig ac yn rhagweld bod cyfnod anodd o’n blaenau,” meddai.

“Serch hynny, mae’r Urdd wedi addasu i’r ‘normal newydd’, wedi arallgyfeirio ein gwasanaethau ble’n bosib i gynnig gweithgareddau rhithiol a chymunedol ac rydym yn hyderus y ddawn drwyddi gyda’n gilydd.

“Rydym ni’n galw ar y rheiny sy’n medru fforddio gwneud, i gefnogi’n hymgyrch ‘Het i Helpu’ y gaeaf hwn, ac i ddangos cefnogaeth i’r Urdd ac i Gymru drwy wisgo’n hetiau coch, gwyn a gwyrdd.

“Rydym fel mudiad yn parhau i roi ein haelodau gyntaf ac i flaenoriaethu ein gwaith gydag ieuenctid Cymru.

“Hoffwn ddiolch i Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru am ddangos eu cefnogaeth unwaith eto i’r Urdd.”