Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cadarnhau bod mwy nag un grŵp o ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth yn hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl i ddau achos o Covid-19 gael eu cadarnhau yn yr ysgol.

Daw hyn ar ôl i’r Cyngor Sir ofyn i Grŵp Dosbarth Blwyddyn 7 a Grŵp Dosbarth Blwyddyn 8 yn yr ysgol uwchradd arall yn y dref, Ysgol Gyfun Penglais, i hunanynysu yn ddiweddar.

Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Sir Ceredigion mai dim ond nifer fach o ddisgyblion sy’n gorfod hunanynysu, o ganlyniad i’r “gweithdrefnau cryf sydd wedi’u rhoi ar waith” yn yr ysgol.

Mae’r ysgol wedi cysylltu â’r rhieni ac mae’r Cyngor Sir yn annog pob rhiant i fynd â’u plant am brawf os ydyn nhw’n datblygu unrhyw symptomau.