Mae lefelau boddhad gwylwyr hŷn â’r BBC yn dangos “arwyddion o ddisgyn” am y tro cyntaf, meddai adroddiad gan y corff gwarchod Ofcom

Mae’n hysbys fod gwylwyr iau’n cael eu denu gan gwmnïau ffrydio yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond mae adroddiad newydd Ofcom yn dweud y gallai agweddau cynulleidfaoedd hŷn tuag at raglennu’r BBC fod yn newid hefyd.

Pobl dros 55 oed yw prif gynulleidfa’r BBC, ac y nhw sy’n ei ddefnyddio a’i gwerthfawrogi fwyaf yn draddodiadol.

Ond mae’r adroddiad ar y BBC yn datgan: “Am y tro cyntaf, mae lefelau boddhad ymhlith y cynulleidfaoedd sydd fel arfer yn defnyddio’r BBC fwyaf, ac sydd wedi bod yn fwyaf bodlon ag ef, yn dechrau dangos arwyddion o ddisgyn.”

Mae’r adroddiad yn cwmpasu’r cyfnod rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2020 ac yn dweud fod “angen i’r BBC ymateb i arferion cynulleidfaoedd”.

Gostyngodd argraffiadau cadarnhaol cyffredinol o’r BBC ymhlith oedolion 55 oed a throsodd, o 64% yn 2017/18 i 62% yn 2019/20.

Gostyngodd cyrhaeddiad wythnosol y BBC gyda’r un grŵp oedran, am y tro cyntaf, o 96% i 93%.

Mae gwasanaethau fel Netflix, YouTube a Spotify “yn parhau i ddenu cynulleidfaoedd i ffwrdd o’r BBC”, meddai’r adroddiad.

“Er bod gwasanaethau radio a sain y BBC yn parhau i golli gwrandawyr, mae radio masnachol cenedlaethol a gwasanaethau ar-lein arbenigol yn gweld twf.”

Mae’r adroddiad yn dweud bod “cyrhaeddiad cyffredinol y BBC yn dal yn uchel iawn, gyda bron i naw o bob 10 oedolyn yn defnyddio ei gynnwys yn wythnosol”.

“Dirywio’n raddol”

Dywed yr adroddiad: “Mae cynulleidfaoedd cyffredinol y BBC yn dirywio’n raddol. Cyrhaeddodd 87% o oedolion yn 2020 o’i gymharu â 92% dair blynedd yn ôl.

“Os nad yw cynulleidfaoedd yn ystyried y BBC yn rhan graidd o’u gwylio, efallai na fyddant yn gweld gwerth yn y ffi’r drwydded…

“Mae angen i’r BBC hefyd ehangu ei gyrhaeddiad ac apelio at ystod ehangach o bobl, yn enwedig cynulleidfaoedd o leiafrifoedd ethnig a’r rhai mewn grwpiau economaidd-gymdeithasol is.”

Mae cynulleidfa gyffredinol BBC One wedi gostwng 5.4% ers 2017, tra bu gostyngiad o 9.4% yn ei chyrhaeddiad ymhlith pobl ifanc 16-24 oed.

Ychwanegodd yr adroddiad bod grwpiau penodol “yn parhau i fod yn llai bodlon gyda’r BBC – yn enwedig pobol yn yr Alban, y rhai mewn grwpiau economaidd-gymdeithasol is, a phobl anabl”.