Mae Meilir wedi teithio Ewrop yn gigio gyda’r Joy Formidable, ac ar fin rhyddhau ei albwm gyntaf…
Mae cerddor arbrofol yn teipio ar hen deipiadur i greu sŵn drymio ar un o ganeuon ei albwm unigol gyntaf, In Tune.
Roedd Meilir Tomos wedi prynu’r teipiadur yn y lle cyntaf er mwyn ceisio ysgogi ei hun i sgrifennu lyrics gwahanol i’r arfer.
Ond fel y digwyddodd pethau, roedd yn hoffi sŵn y teclyn gymaint, dyma’i droi yn ddrwm.
Mae’r tipi-tapio teipio i’w glywed ar gân agoriadol yr albwm newydd, sef ‘It Begins’.
Dyma drac sy’n nodweddiadol o waith y swynwr seinyddol – mae arni haenau o biano, synau electronig bygythiol, drymio rat-a-tat fel bwledi o fashîn-gyn, mymryn o gitâr, y teipio rhythmig, a llais canu ffalseto pruddglwyfus.
Mae ‘It Begins’ yn gân atmosfferig sy’n adeiladu at uchafbwynt sy’ byth cweit yn cyrraedd, ac yn debyg i stwff mwy arbrofol Radiohead.
Does ryfedd fod blog cerddoriaeth From The Margins wedi bedyddio Meilir yn “gerddor arbrofol mwyaf clyfar Cymru.”
Ydy, mae ei fiwsig yn arbrofol – ond yn bwysicach na hynny, mae o’n ddifyr ac yn llawn syrpreisus.
Fe allai rhai o’r caneuon ar In Tune yn hawdd fod yn draciau sain i ddramâu Scandi Noir – maen nhw yn pori yn yr un cae â’r gân ‘Hollow Talk’ sydd ar gychwyn y ddrama deledu Bron/Broen (The Bridge) a gafodd ei ffilmio yn Nenmarc a Sweden.
A ddyle neb synnu bod Meilir yn gerddor talentog – roedd yn canu ar lwyfan steddfod yn bedair oed, ac yn gerddor clasurol cyn troi at ganu mewn band o’r enw Manchuko, gyda ffrindiau ysgol.
Fe symudon nhw o Sir y Fflint i Gaerdydd, cyn chwalu, a bu Meilir yn cynnal ei hun yn gweithio ym mariau a swyddfeydd y brifddinas am flynyddoedd.
Ond creu cerddoriaeth oedd y flaenoriaeth, ac mae Meilir – sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 40 oed ym mis Chwefror – wrth ei fodd yn cael cyhoeddi ei albwm unigol gynta’r wythnos nesa’.
“Yn amlwg mae yn gyffrous iawn,” meddai cyn chwerthin a chyfadde’ fod creu’r casgliad cyflawn cynta’ “wedi cymryd amser maith!”
“Dw i yn cofio bod yn 17, 18 yn planio cychwyn label a gwneud albwm efo’r band roeddwn i ynddo ar y pryd, Manchuko.
“A phan wnaeth y band chwalu, roedd y sîn wedi mynd yn fwy fewn i wneud senglau ag EPs a pethau fel yna.
“Y plan oedd gwneud tri EP dros bum mlynedd,” meddai gan chwerthin eto, “ond yn y diwedd, mae o wedi troi fewn i ddau EP ag albwm dros gyfnod o ddeng mlynedd.”
Aeth degawd a mwy heibio ers iddo gyhoeddi ei gasgliad cyntaf o ganeuon, sef yr EP Bydd Wych.
Ac mae rhai o ganeuon yr albwm newydd wedi bodoli ar ffurf demos ers rhyw wyth mlynedd.
Ond mae’r cerddor yn falch ei fod wedi cymryd ei amser i ffein-tiwnio’r tiwns ar In Tune.
“Dw i’n really proud o’r albwm yma – mae wedi cymryd yn hir, ond mae llwyddiant i fi [yn golygu] bo fi jesd wedi ei wneud o.
“Beth mae pobol yn feddwl ohono fo wedyn, mae o i fyny iddyn nhw. Dw i’n ddigon hapus.”
Llun difyr
Ar gyfer hyrwyddo’i albwm gyntaf, mae Meilir wedi cael tynnu ei lun yng nghartref ei gariad yn yr Hendre, pentrefan ryw bedair milltir o’r Wyddgrug yn Sir y Fflint.
Ac mae arwyddocâd i sawl eitem yn y llun, o’r hen deipiadur yn eistedd ar sêt biano, i’r allweddellau Nord Wave.
“Roeddwn i eisiau llun y byddai pobol, sydd ddim yn gwybod pwy ydw i, efallai yn ei weld a meddwl ‘be ydy hwnna?’, ac yn edrych eto,” meddai Meilir.
“Ac roeddwn i eisiau cynnwys elfennau o be’r ydw i fel hefyd.
“Felly mi wnaethon ni feddwl reit hir am y shoot yna, ac roedd yn hwyl i’w wneud.
“Ac allan o ryw gant o luniau, dyna’r unig un lle’r oedd [Cai] y ci yn bihafio!”
O graffu ar draed Meilir, fe welwch ei fod yn gwisgo esgidiau trawiadol sy’n rhannol goch llachar.
“Dw i’n reit hoff o ddillad sy’n eitha’ trawiadol,” eglura.
“Mae gen i floral tracksuits a bob math o ddillad reit wirion.
“A phan welis i’r esgidiau yna, wnes i ffansïo nhw. Dw i ddim yn gwisgo nhw’n aml.”
Fe fydd y rhai craff hefyd yn gweld bod yna ddau fetronom yn y llun, sef y ddyfais mae cerddorion yn ei defnyddio i gadw mewn amser.
“Mae yna ddau fetronom ar y gân ‘Glasshouse’ sydd ar yr albwm,” eglura Meilir, “ac maen nhw yn mynd mewn ac allan o amser.
“A’r bwriad efo’r gân yna oedd fy mod eisiau iddi deimlo fel… pan ti’n cael y symud yna yn dy fol, pan ti’n gweld rhywun ti heb weld ers ages.
“Dw i wastad yn trio creu pethau sydd yn anodd i’w cyfleu trwy gerddoriaeth.”
Rocio’r Almaen
Am flwyddyn cyn y corona, roedd Meilir yn gweithio yn llawn amser yn y byd cerddoriaeth – am y tro cyntaf erioed – yn dechnegydd i’r band The Joy Formidable, yn gosod yr amps a’r offerynnau ar y llwyfan cyn gigs a ballu.
Ym mis Chwefror y llynedd, ar ôl bod yn paratoi’r llwyfan ar gyfer gigs The Joy Formidable gydag Adwaith ym Mhrydain, fe gafodd Meilir gamu i’r llwyfan ar gyfer eu gigs yn Ewrop.
“Roedd hwnna yn brofiad… wnes i ddysgu lot… cael y cyfle i chwarae yn Ewrop. Brilliant!”
Fuon nhw yn chwarae o flaen torfeydd “o ryw 500, pob [gig] yn llawn” yn yr Almaen a Gwlad Belg.
“Mae yna dal pobol rŵan sy’ wedi pre-ordro’r albwm ac yn dilyn fi ar social media oherwydd y daith yna.
“Ac mae yna gyfle i fynd yn ôl i’r Almaen i wneud stwff hefyd, felly fe fydd hwnna’n digwydd pan fydd pethau’n gwella efo’r covid yma.”
Amrywiaeth ar yr albwm
Tra bo’r caneuon ar In Tune yn arbrofol ac atmosfferig, mae yna amrywiaeth ar yr albwm hefyd.
Mae’r gân ‘In Tune’ yn cychwyn gyda riff gitâr drydan hyfryd sy’n gyfeiliant i lais canu tyner Meilir.
Gitâr acwstig yn cael ei strymio sy’n gyfeiliant iddo ar y gân ‘Next’, sy’ hefyd yn cynnwys synau offerynnau pres a llinynnol.
Ac mae yna alaw biano ar gychwyn ‘Glasshouse’ sy’n swnio fel un o faledi Louis Capaldi neu Coldplay, ac yn hwyrach ymlaen mae yna solo ar y synth allai fod ar un o ganeuon caleidascopic Daft Punk.
“Dw i’n meddwl bod [yr amrywiaeth] yn dod o’r ffaith fy mod i’n defnyddio gwahanol bethau [i greu’r gerddoriaeth],” meddai Meilir.
“A dw i ddim eisiau i bob peth fod yr un fath…
“Dw i eisiau i’r gerddoriaeth fod ychydig bach yn fwy heriol. Dw i ddim yn siŵr os ydy o’n fwy diddorol, ond dyna’r bwriad.”