Mae fferm gydweithredol yn y gogledd yn defnyddio dulliau o dramor i dyfu bwyd yn organig, gan roi’r pwyslais ar dyfu cnydau i fwydo’r gymuned leol…

Er mai dim ond 31 erw yw Tyddyn Teg, mae’r fferm gydweithredol a’i deg o weithwyr yn bwydo 150 o deuluoedd bob wythnos gyda’u bocsys llysiau organig. Ar ben hynny, maen nhw’n cyflenwi tair siop leol, ambell i fusnes bwyd, ac yn rhedeg eu siop fferm eu hunain.