Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cadarnhau bod grŵp o ddisgyblion ym Mlwyddyn 8 yn Ysgol Gyfun Penglais, Aberystwyth yn hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl cadarnhau achos Covid-19 yn yr ysgol.
Daw hyn ar ôl i’r Cyngor Sir ofyn i Grŵp Dosbarth Blwyddyn 7 yn Ysgol Gyfun Penglais a Grŵp Cyswllt yn Ysgol Gynradd Llwyn yr Eos i hunanynysu yr wythnos ddiwethaf.
Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Sir Ceredigion mai dim ond nifer fach o ddisgyblion sy’n gorfod hunanynysu, o ganlyniad i’r “gweithdrefnau cryf sydd wedi’u rhoi ar waith” yn yr ysgol.
Mae’r ysgol wedi cysylltu â’r rhieni ac mae’r Cyngor Sir yn annog pob rhiant i fynd â’u plant am brawf os ydyn nhw’n datblygu unrhyw symptomau.