Mae tri o bwyllgorau’r Senedd wedi galw ar Aelodau i wrthwynebu mesur ôl-Brexit dadleuol.
Mae Llywodraeth San Steffan yn dadlau y bydd ‘Bil y Farchnad Fewnol’ yn sicrhau masnach lefn oddi fewn i’r Deyrnas Unedig wedi Brexit.
Ond mae llywodraethau Cymru a’r Alban wedi codi pryderon am y mesur, gan ddadlau y byddai’n cipio pwerau oddi wrthyn nhw.
Ar Ragfyr 1 mi fydd y Senedd yn pleidleisio tros roi ei chydsyniad i’r Bil, a bellach mae tri phwyllgor wedi galw ar i Aelodau wrthwynebu’r mesur.
Gwrthwynebiad
Ar ôl ystyried y Bil mae’r tri phwyllgor wedi dod at dri phrif gasgliad.
Mae’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn dadlau ei fod yn ffafrio buddiannau Lloegr mewn ffordd anghymesur.
Yn ôl y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad byddai’n cael effaith uniongyrchol ar fywydau bob dydd dinasyddion Cymru.
Ac mae’r Pwyllgor Cyllid wedi dod i’r casgliad y byddai’n tanseilio pŵer Llywodraeth Cymru i wario.
“Lleihau pŵer y Senedd”
“Ni ellir anwybyddu barn Senedd Cymru ar fater cyfansoddiadol mor bwysig,” meddai David Rees, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol
“Gallai Bil y Farchnad Fewnol wyrdroi dau ddegawd o waith ar ddatganoli os caiff ei basio.
“Rwy’n erfyn ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i beidio anwybyddu dymuniad y Senedd am y bydd y Bil hwn yn lleihau pŵer y Senedd a bydd yn lleihau effaith cyfreithiau sy’n cael eu gwneud yng Nghymru.”