Y Ceidwadwyr Cymreig yw’r unig blaid sydd yn “credu’n gryf mewn Cymru gref a Theyrnas Unedig gref”, yn ôl arweinydd grŵp y blaid yn y Senedd.
Mae Paul Davies wedi dweud “nad oes unrhyw senario” lle y byddai’n troi at gefnogi annibyniaeth, ac mae wedi cyhuddo Mark Drakeford o geisio “bodloni” cenedlaetholwyr.
Wrth siarad ag asiantaeth newyddion PA mae Paul Davies hefyd wedi dweud y dylai’r cyhoedd “bleidleisio tros y Ceidwadwyr er mwyn sicrhau bod Cymru yn aros yn yr undeb.”
“Os ydych yn edrych ar record yr arweinydd Cymreig dros y blynyddoedd diwethaf, mi welwch ei fod wedi ceisio bodloni’r cenedlaetholwyr Cymreig, a’u galwadau am annibyniaeth,” meddai. “Ac mae hynny’n beth peryglus iawn.
“Rydym yn credu’n gryf mewn Cymru gref a Theyrnas Unedig gref. Ac rydym yn hynod glir ar y pwynt hynny. Dyna fydd ein neges i bobol Cymru flwyddyn nesa’. A dw i’n credu mai ni fydd yr unig blaid a fydd yn cyfleu’r neges honno.”
“Amddiffyn datganoli”
“Pan ddaw at y Torïaid, yr unig beth sy’n ‘glir’ yw eu bod wedi methu â sefyll cornel Cymru,” meddai llefarydd ar ran Llafur Cymru wrth golwg360.
“Maen nhw wedi pleidleisio yn erbyn mesurau i reoli coronafeirws, ac maen nhw wedi bod yn dawel ynghylch dêl deg ar gyfer buddsoddi mewn rheilffyrdd.
“Mae eu harweinydd yn credu mai camgymeriad yw datganoli, ac yn awr mae’r Torïaid yn cefnogi ei ymgais i droi’r cloc yn ôl gan ryw 20 mlynedd,” meddai wedyn.
“Bydd Llafur Cymru’n wastad yn sefyll cornel Cymru ac yn amddiffyn datganoli yn erbyn Paul Davies a’i gyfeillion.”
Twf mudiad annibyniaeth
Daw sylwadau Paul Davies wrth i etholiad Senedd 2021 nesau, ac yn sgil twf mawr mewn cefnogaeth i fudiad annibyniaeth YesCymru.
Mae miloedd wedi ymuno â nhw dros yr wythnosau diwethaf.