Mae Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru wedi cyhoeddi argymhellion terfynol er mwyn lleihau tagfeydd ar draffordd yr M4 heb adeiladu ffordd liniaru newydd o amgylch Casnewydd.

Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru ar ol i’r Prif Weinidog Mark Drakeford benderfynu peidio bwrw mlaen gyda chynllun ar gyfer ffordd liniaru ar yr M4.

Y prif gynnig yw rhwydwaith amgen sy’n darparu dewisiadau trafnidiaeth gyhoeddus gynhwysfawr a chyd gysylltiedig yn lle’r M4.

Mae hyn yn canolbwyntio ar wella’r ddarpariaeth rheilffyrdd rhwng Caerdydd, Casnewydd a Bryste gan gynnwys adeiladu gorsafoedd rheilffordd newydd rhwng Caerdydd ac Afon Hafren.

Y gorsafoedd newydd posib:

  • Heol Casnewydd (Caerdydd)
  • Parcffordd Caerdydd (Llaneirwg)
  • Gorllewin Casnewydd
  • Dwyrain Casnewydd (Somerton)
  • Llanwern
  • Magwyr

“Dim dewisiadau amgen i’r M4”

Mae’r comisiwn hefyd yn argymell creu coridorau bysiau a beiciau newydd ar draws y rhanbarth.

Disgrifiodd Cadeirydd y Comisiwn, yr Arglwydd Burns yr ardal o amgylch yr M4 fel “coridor economaidd pwysig” i Gymru.

“Mae’n ehangu ac yn dod yn lle deniadol i bobol weithio a byw ynddo, yn union fel rhanbarthau tebyg yn y Deyrnas Unedig a gwledydd eraill yn Ewrop,” meddai.

“Mae angen amrywiaeth o opsiynau trafnidiaeth ddeniadol, fforddiadwy a chyd gysylltiedig i gyflawni ei photensial.

“Mae’n amlwg nad oes gan bobol yn Ne Ddwyrain Cymru ddewisiadau amgen i’r M4.

“Does dim dewis ond defnyddio’r draffordd, credwn y gallai rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus effeithlon a dibynadwy ddod yn ddewis cyntaf i lawer o deithwyr.”

Ychwanegodd y bydd gostyngiad yn nifer y ceir sy’n teithio ar yr M4 yn arwain at welliant yn llif teithio ac yn lleihau llygredd aer.

Tu hwnt i seilwaith mae’r adroddiad hefyd yn argymell dylai datblygiadau newydd gael eu hadeiladu o amgylch y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na’r draffordd a dylid creu safleoedd gweithio o bell i leihau’r angen i deithio.

Galw am gefnogaeth Llywodraeth y DU

Mae Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi croesawu’r adroddiad ac wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gydweithio â nhw.

“Fel yr amlinellwyd yn ein Strategaeth Drafnidiaeth Cymru newydd, mae cael mwy o bobol allan o’u ceir ac ar drafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol i’n dyfodol,” meddai.

“Byddwn yn gweithio gyda Chyngor Casnewydd a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddatblygu’r argymhellion.

“Fel yr ydym wedi tynnu sylw ato droeon mae’n ofynnol i Lywodraeth y Deyrnas Unedig i chwarae ei rhan ac ariannu seilwaith rheilffyrdd digonol yng Nghymru.

“Mae’r adroddiad heddiw, sy’n seiliedig ar uwchraddio prif linell de Cymru, yn gam pwysig ymlaen.”

Dywedodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig Boris Johnson fis Hydref fod San Steffan yn ceisio adfer cynlluniau ar gyfer ffordd liniaru’r M4 o amgylch Casnewydd, a hynny er bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod y prosiect.

Arloesi cynaliadwy

Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd Gweinidog Trafnidiaeth Cysgodol Plaid Cymru, Helen Mary Jones AS,

“Mae angen gwelliannau sylweddol i’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghasnewydd a’r tu allan iddi – ac mae llawer o atebion nad ydynt yn ymwneud ag adeiladu mwy o ffyrdd yn unig.

“Er enghraifft, mae’n hen bryd i Gasnewydd gael cynllun beicio hygyrch. Yn wir, dylai hyn fod yn norm ym mhob tref a dinas yng Nghymru erbyn hyn. Mae twnelu yn syniad arall sy’n cael ei dreialu yng ngogledd America ar hyn o bryd a allai ganiatáu i Gymru fod yn brawf ar gyfer arloesi.

“Os ydym o ddifrif am fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd mae’n rhaid i ni symud y sgwrs i ddulliau trafnidiaeth gwyrddach a mwy cynaliadwy na’r car preifat yn unig. Fodd bynnag, er mwyn buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus, mae angen mwy o gapasiti benthyca ar Gymru a’i banc seilwaith cenedlaethol ei hun i ddatblygu’r prosiectau hyn.

“Gyda’r dylanwad ariannol cywir, gallai Cymru ddechrau bod yn gyfranwr mawr at arloesi cynaliadwy.”