Wayne Pivac yn enwi’i dîm i wynebu Lloegr

Mae James Botham yn cadw ei le yn y tîm ar ôl ennill ei gap cyntaf yn erbyn Georgia

WRU

James Botham

Mae Wayne Pivac, Prif Hyfforddwr Cymru, wedi enwi’i dîm i wynebu Lloegr ym Mharc y Scarlets brynhawn dydd Sadwrn.

Lloegr sydd ar frig Adran A Cwpan Cenhedloedd yr Hydref, tra bod Cymru yn drydydd ar ôl colli i Iwerddon a churo Georgia.

Lloyd Williams sydd yn dechrau fel mewnwr ac mae James Botham, blaenasgellwr ifanc Gleision Caerdydd, yn cadw ei le yn y rheng ôl ar ôl ennill ei gap cyntaf yn erbyn Georgia.

Doedd yr un o’r ddau wedi eu cynnwys yng ngharfan wreiddiol Cymru ar gyfer gemau’r Hydref.

Ar ôl cael ergyd i’w ben wrth chwarae yn erbyn Georgia dydy Justin Tipuric heb ei gynnwys yn y garfan tra bod yr asgellwr George North wedi ei ryddhau i chwarae i’r Gweilch.

Er perfformiadau diweddar Cymru mae Neil Jenkins, Hyfforddwr Sgiliau’r tîm cenedlaethol, yn mynnu bod Cymru yn barod i wynebu’r hen elyn.

Tîm Cymru

“Mae dydd Sadwrn yn gyfle gwych arall i ni ac i’r garfan,” meddai’r prif hyfforddwr Wayne Pivac mewn cynhadledd i’r wasg wedi’r cyhoeddiad.

“Mae beth mae pobol yn meddwl o’r ddau dîm yn amherthnasol. Ar ddiwedd y dydd mae Cymru’n chwarae Lloegr.

“Bydd cymhelliant ddim yn broblem. Byddwn yn dangos parch i’r gwrthwynebwyr, ond mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar ein hunain a bod yn ymosodol.”

Olwyr: 15. Leigh Halfpenny, 14. Louis Rees-Zammit, 13. Nick Tompkins, 12. Johnny Williams, 11. Josh Adams, 10. Dan Biggar, 9. Lloyd Williams

Blaenwyr: 1. Wyn Jones, 2. Ryan Elias, 3. Samson Lee, 4. Jake Ball, 5. Alun Wyn Jones (C), 6. Shane Lewis-Hughes, 7. James Botham, 8. Taulupe Faletau

Eilyddion: 16. Elliot Dee, 17. Rhys Carre, 18. Tomas Francis, 19. Will Rowlands, 20. Aaron Wainwright, 21. Rhys Webb, 22. Callum Sheedy, 23. Owen Watkin

Tîm Lloegr

Mae George Ford yn dychwelyd i’r tîm cyntaf ar ôl dod ymlaen fel eilydd yn erbyn Iwerddon wythnos diwethaf. Golyga hyn bod y Capten Owen Farrell yn symud i ganol cae.

Ar ôl enwi ei dîm eglurodd Eddie Jones, Prif Hyfforddwr Lloegr, ei fod yn disgwyl gêm galed yn erbyn Cymru.

“Deuddeg mis yn ôl, enillodd Cymru’r Gamp Lawn a dod o fewn tri phwynt i rownd derfynol Cwpan y Byd, felly rydyn ni’n gwybod beth maen nhw’n gallu ei wneud,” meddai.

“Maen nhw’n chwarae yng nghalon ac enaid rygbi Cymru, Llanelli, felly mae llawer o symbolaeth iddyn nhw, byddai dim yn gwneud eu tymor yn well na buddugoliaeth dros Loegr.”

Olwyr: 15. Elliot Daly, 14. Jonathan Joseph, 13. Henry Slade, 12. Owen Farrell (C), 11. Jonny May, 10. George Ford, 9. Ben Youngs

Blaenwyr: 1. Mako Vunipola, 2. Jamie George, 3. Kyle Sinckler, 4. Maro Itoje, 5. Joe Launchbury, 6. Tom Curry, 7. Sam Underhill, 8. Billy Vunipola

Eilyddion: 16. Luke Cowan-Dickie, 17. Ellis Genge, 18. Will Stuart, 19. Jonny Hill, 20. Ben Earl, 21. Jack Willis, 22. Dan Robson, 23. Anthony Watson

Cymru v Lloegr yn fyw ar S4C gyda’r gic gyntaf am 4.00 brynhawn Sadwrn

← Stori flaenorol

Steve Cooper

Rheolwr Abertawe yn cwyno i’r FA ynghylch penodiad Andy Woolmer fel dyfarnwr

Rheolwr yr Elyrch yn teimlo fod penderfyniadau wedi mynd yn eu herbyn

Stori nesaf →

Diego Maradona, un o’r pêl-droedwyr gorau erioed, wedi marw’n 60 oed

Caiff ei gofio fel un o’r goreuon erioed – ac fel arwr yn yr Ariannin, Napoli a thu hwnt.

Hefyd →

Rhybudd am effaith yr argyfwng costau byw

Mae YouGov wedi cynnal ymchwil ar ran Sefydliad Bevan