Mae Neil Jenkins, Hyfforddwr Sgiliau Cymru, yn mynnu bod Cymru yn barod i wynebu’r hen elyn, ar drothwy croesawu Lloegr i Lanelli yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref.

Ar ôl ennill dim ond dwy o’u wyth gêm ddiwethaf mae Cymru bellach wedi cwympo i’r nawfed safle yn netholion y byd – un i ffwrdd o’u safle gwaethaf erioed – tra bod Lloegr yn ail.

Lloegr sydd hefyd ar frig Adran A Cwpan Cenhedloedd yr Hydref, tra bod Cymru yn drydydd ar ôl colli i Iwerddon a churo Georgia.

“Mae Lloegr yn dda iawn ar hyn o bryd, ond mi fyddwn ni’n barod i’w hwynebu ddydd Sadwrn,” meddai.

“Mae Lloegr yn gêm fawr i ni, ac yn her fawr.

“Mae Cymru yn erbyn Lloegr bob tro yn gyffrous, felly dw i’n credu y byddwn ni yn fwy na pharod ar gyfer dydd Sadwrn, ac yn ffyddiog y byddwn ni’n well na Lloegr mewn sawl agwedd o’r gêm.

“Ry’n ni’n gwybod ei bod hi’n anodd iawn mynd o gwmpas amddiffyn y Saeson, maen nhw’n dda iawn heb y bêl ac mae ganddyn nhw gyflymder.”

Dyfnder i’w groesawu

Ar ôl i Gymru wneud 13 o newidiadau i’r tîm i wynebu Georgia y penwythnos diwethaf, dywed Neil Jenkins ei bod hi’n braf cael dyfnder o fewn y garfan.

“Mae cael rhagor o ddyfnder o fewn y garfan yn beth i’w groesawu,” meddai.

“Fel hyfforddwr, rydych eisiau mwy o ddewisiadau o fewn y garfan, a gweld y chwaraewyr yn gwthio’i gilydd am lefydd.

“Does dim llawer o chwaraewyr o fewn y garfan sy’n gallu dweud eu bod wedi’u hoelio i safle penodol.

“Er enghraifft, cafodd Callum Sheedy gêm dda ar y penwythnos.

“Ciciodd yn dda a hynny mewn amodau anodd.

“Bydd e nawr yn rhoi pwysau ar Dan [Biggar] a dw i’n siŵr y bydd Dan yn ymateb.

“Pwy bynnag fydd yn chwarae ddydd Sadwrn, bydd y naill neu’r llall yn iawn gyda ni.”

Bydd Wayne Pivac, prif hyfforddwr Cymru, yn enwi ei dîm i wynebu Lloegr brynhawn dydd Iau (Tachwedd 26).