Mae Ross Moriarty wedi ei ryddhau o garfan rygbi Cymru.
Dydy’r chwaraewr 26 oed heb chwarae unrhyw ran yng ngemau Cymru yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref ar ôl anafu ei ffêr wrth ymarfer gyda’r tîm cenedlaethol.
Bydd e’n dychwelyd i ranbarth y Dreigiau.
“Roeddem wedi gobeithio y byddai ar gael ar gyfer y gemau olaf, ond yn anffodus doedd hynny ddim yn bosib,” meddai Neil Jenkins, hyfforddwr sgiliau Cymru, mewn cynhadledd i’r wasg.
“Mae’n siom ond y gobaith nawr, drwy ei ryddhau, yw y bydd wedi gwella ac yn barod i fynd ar gyfer y Chwe Gwlad.”
Oherwydd anafiadau i Moriarty a Josh Navidi, cafodd Jim Botham, blaenasgellwr Gleision Caerdydd, ei alw i garfan Cymru yr wythnos ddiwethaf gan ennill ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn Georgia ym Mharc y Scarlets.
Cadarnhaodd Neil Jenkins fod Josh Navidi a’r wythwr Taulupe Faletau bellach nôl yn ymarfer.