Mae elusen SOS Kit Aid, sydd wedi bod yn allweddol yn natblygiad rygbi yn Georgia, yn apelio am ofod i storio cit ac offer yn ardal Bae Abertawe.
Fe ddaw ar ôl iddyn nhw golli storfa yn ystod cyfnod clo’r coronafeirws eleni ac wrth i’w gweithgarwch orfod dod i ben eleni yn sgil y feirws a’r cyfyngiadau.
Bu golwg360 yn siarad â Ken Thomas, Cyfarwyddwr Cymru yr elusen, wrth iddo ymfalchïo yn y rhan mae’r elusen wedi’i chwarae yn natblygiad dau draean o dîm cenedlaethol Georgia oedd wedi herio Cymru yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref ddydd Sadwrn (Tachwedd 21).
“Gynta’ i gyd, danfonon ni cit allan i Rwmania, a Georgia oedd yr ail ar y rhestr, felly maen nhw wedi bod yn cael cit trwodd oddi ar ryw bymtheg mlynedd,” meddai Ken Thomas wrth golwg360, gan ychwanegu fod gan dimau a chwaraewyr Georgia “braidd dim” cit pan ddechreuodd yr elusen gynnig cefnogaeth yno.
“Yr un peth â Rwmania.
“Dechreuodd SOS Kit Aid ar ôl i John Broadhurst, sy’n byw yn Lloegr, fynd â thîm allan i Rwmani a gweld pa fath o stâd oedd ar y cit oedd gan y plant yn chwarae yn erbyn ei blant e.
“Mae’r elusen wedi adeiladu lan o blant ifanc i ddechrau, a dyna shwd mae cymaint o’r garfan nawr wedi dod lan trwy rygbi iau yn Georgia.
“Gaethon ni lythyr pan oedd Cwpan y Byd yng Nghaerdydd gan y Llywodraeth yn diolch am ein gwaith ni.
“Dywedon nhw bryd hynny fod tua hanner y sgwad, a nawr dau draean, wedi dechrau eu gyrfaoedd rygbi yn defnyddio cit trwy SOS Kit Aid.
“Ni wastod yn cael gwahoddiad pan bo nhw draw fan hyn i fynd i’w gweld nhw’n chwarae ond wrth gwrs, oherwydd corona, do’n ni ddim wedi cael y siawns i fynd i’r gêm ddiweddara’.”
Y dyfodol yn Georgia
Dim ond ers y 1990au mae Georgia ymhlith y timau sydd wedi bod yn cystadlu i gyrraedd Cwpan y Byd, gan gymhwyso am y tro cyntaf yn 2003 ac ennill gêm am y tro cyntaf yn 2007.
Un o’r rhesymau am hynny yw’r diffyg adnoddau rygbi a fu yn y wlad tan hynny.
Ond wrth i’r gamp ddatblygu a chryfhau yn y wlad, a bod mwy o chwaraewyr Georgia yn chwarae yng nghynghreiriau Ewrop, mae mwy o alw erbyn hyn ar i’r awdurdodau roi’r hawl i’r wlad ymuno â Phencampwriaeth y Chwe Gwlad ac i glybiau gael chwarae yn y PRO14.
Yn ôl Ken Thomas, byddai hyn yn gam naturiol yn natblygiad y gêm yn Georgia.
“Dw i’n credu ei fod yn bwysig fod gwledydd llai yn cael siawns i chwarae ar y lefel uchaf yn gyson,” meddai.
“Fydden i ddim yn gweld dim byd yn bod â Georgia yn dechrau achos mae rhaid i chi ddechrau yn rhywle.
“Os y’ch chi’n chwarae ar lefel well, fel ry’n ni wedi gweld gyda’r Ariannin, maen nhw wedi dod lan dros y blynyddoedd.
“Gorau i gyd y fwya’ o gystadleuaeth ry’n ni’n cael fel PRO14 i’n timau ni hefyd.
“Mae’n bwysig chwarae yn erbyn clybiau sydd â gwahanol steil, ac efallai fyddan nhw ddim yn rhy gryf yn dechrau, ond fel ry’n ni’n gweld gyda thimau’r Eidal, maen nhw’n gwella drwy’r amser.”
SOS Kit Aid yng ngweddill y byd
Cafodd yr elusen ei sefydlu yn 2001, ac maen nhw’n parhau i helpu timau a chwaraewyr mewn gwledydd lle mae rygbi’n dod yn boblogaidd.
Er bod gweithgarwch yr elusen wedi lleihau yn ddiweddar, mae cynlluniau ar y gweill i helpu chwaraewyr a thimau mewn gwledydd eraill pan ddaw’r cyfle eto.
“Mae wedi mynd yn dawel oherwydd y feirws, a’r tro diwethaf i ni ddanfon cit oedd blwyddyn diwetha’ i Latfia,” meddai Ken Thomas wedyn.
“Mae SOS Kit Aid yn Lloegr wedi bod yn danfon cit ma’s o hyd ond wrth gwrs, mae Georgia wedi cwympo bant o’r rhestr achos bo nhw wedi dod yn broffesiynol.
“Mae Latfia ymhlith y gwledydd ry’n ni’n eu targedu, a hefyd yr Wcráin a Botswana, felly ry’n ni’n trio lledu’r gêm ar draws y byd i gyd.”
- Gall unrhyw un yn ardal Bae Abertawe sydd â gofod i storio cit ffonio Ken Thomas ar 07432139692