Mae tad y seiclwr Nicole Cooke wedi dweud wrth dribiwnlys meddygol ei fod e wedi mynegi pryder am y defnydd o gyffuriau yn y byd seiclo “saith mlynedd yn ôl”, ond ei fod e hefyd yn gofidio na fyddai’r awdurdodau’n gweithredu.

Mae Tony Cooke yn dyst yng ngwrandawiad addasrwydd Richard Freeman, cyn-feddyg tîm Sky a Seiclo Prydain.

Dywedodd wrth y gwrandawiad ei fod e wedi cael cyfarfod dwy awr gydag ymchwilwyr gwrth-gyffuriau UKAD yn 2013 i drafod ei bryderon, gan gynnwys rhai ynghylch Shane Sutton, pennaeth Seiclo Prydain ar y pryd.

Ond doedd e ddim wedi’i fodloni ar ddiwedd y cyfarfod y byddai’r mater yn cael sylw digonol.

Yr achos yn erbyn Richard Freeman

Mae Richard Freeman wedi cyfaddef 18 allan o 22 o gyhuddiadau yn ei erbyn.

Ond mae’n gwadu’r prif gyhuddiad ei fod e wedi archebu testosteron gan wybod y byddai’n cael ei ddefnyddio’n anghyfreithlon i helpu seiclwr.

Dywedodd Tony Cooke fod ei ferch Nicole wedi clywed gan ymchwilwyr UKAD ddau ddiwrnod ar ôl iddi ymddeol yn 2013, pan wnaeth hi ladd ar dwyllwyr cyffuriau yn y gamp.

Dywedodd ei fod yn “gofidio” na fyddai’r honiadau’n dod yn destun ymchwiliad, a’i fod e’n “synnu” nad oedd UKAD wedi gallu rhoi copi o’i dystiolaeth iddo.

Dywedodd ymhellach nad oedd e na Nicole Cooke yn teimlo bod Shane Sutton yn un y gallen nhw “ymddiried ynddo fyth”, ond nad oedden nhw erioed wedi ei weld e’n defnyddio cyffuriau.

Mae’r tribiwnlys yn parhau.