Bydd torfeydd yn cael dychwelyd i rai digwyddiadau chwaraeon y mis nesaf mewn ardaloedd sydd â chyfraddau coronafeirws is.

Cyhoeddodd y Prif Weinidog Boris Johnson y byddai lleoliadau awyr agored a dan do yn Lloegr mewn ardaloedd haen 1 a 2 yn cael croesawu nifer cyfyngedig.

Er na gadarnhaodd y Prif Weinidog beth fyddai’r nifer mae adroddiadau y bydd cyfyngiad o 4,000 neu capasiti o 50 y cant – pa un bynnag sydd isaf yn haen 1.

2,000 neu 50 y cant yw’r nifer uchaf posib dan do.

Yn haen 2, adroddwyd y byddai’n 2,000 yn yr awyr agored a 1,000 dan do, neu gapasiti o 50 y cant.

Daw’r cyhoeddiad wrth i gyfyngiadau presennol yn Lloegr ddod i ben ar Ragfyr 2.

Cysondeb a’r celfyddydau

Eglurodd Boris Jonson mewn datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin bydd y cyhoeddiad yn darparu mwy o gysondeb rhwng digwyddiadau chwaraeon a’r celfyddydau.

“Bydd digwyddiadau chwaraeon a busnes yn rhydd i ailddechrau y tu mewn a’r tu allan gyda therfynau capasiti a phellter cymdeithasol, gan gynnig mwy o gysondeb gyda pherfformiadau dan do mewn theatrau a neuaddau cyngerdd.”

Roedd disgwyli dorfeydd gael dychwelyd i ddigwyddiadau chwarae fis Hydref ond bu rhaid i hynny newid oherwydd cynnydd yn yr haint ledled y wlad.

Cam mawr ymlaen

“Mae hyn yn gam mawr ymlaen i gefnogwyr wrth i ni weithio tuag at gapasiti llawnach,” meddai Ysgrifennydd Diwylliant y Deyrnas Unedig, Oliver Dowden, yn ddiweddarach.

“Diolch i’r holl gynlluniau peilot a chefnogwyr am ddangos y gellir gwneud hyn yn ddiogel.”

Mae cyn-chwaraewr canol cae Cymru Robbie Savage wedi croesawu’r newyddion.

Yn ddiweddar mynychodd y cyn bel droediwr gynhadledd newyddion Llywodraeth Cymru er mwyn rhoi pwysau arnynt i adael i bobol gael mynd i wylio pêl-droed.