Mae’r Gweinidog Iechyd wedi amlinelli dau gynllun newydd er mwyn gofalu am bobol mewn cartrefi gofal a chaniatáu ymweliadau.

Yn ogystal â’r ‘podiau cyfarfod’ dros dro fydd yn cael eu gosod mewn cartrefi gofal bydd profion cyflym yn cael eu cynnig er mwyn i deuluoedd allu ymweld â phreswylwyr.

“Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd y cynllun peilot hwn hefyd yn cael ei roi ar waith ar draws nifer bychan o gartrefi gofal yng Nghymru o 30 Tachwedd ymlaen,” meddai Vaughan Gething.

“Fel rhan o’r cynllun, mae cartrefi gofal ledled Cymru wedi gwirfoddoli i gynnig profion i ymwelwyr â chartrefi gofal gan ddefnyddio dyfeisiau llif unffordd.”

Bydd y cynllun peilot i roi prawf Covid 20-munud yn dechrau mewn cartrefi gofal wythnos nesaf.

Prawf negatif ‘ddim yn rhoi ‘pas rydd’

Fodd bynnag mae’r Gweinidog Iechyd wedi rhybuddio y dylid parhau i ddilyn y rheolau tra’n ymweld â chartrefi gofal.

“Nid yw dyfeisiau llif unffordd mor sensitif â’r profion RT-PCR rydym yn eu defnyddio ar hyn o bryd mewn rhaglenni profi eraill.

“Felly, nid yw canlyniad prawf negatif yn rhoi ‘pas rydd’ a rhaid parhau i ddilyn gweithdrefnau atal a rheoli heintiau, fel hylendid dwylo, gwisgo cyfarpar diogelwch personol a chadw pellter cymdeithasol priodol.

“Mae ein hamserlenni’n uchelgeisiol ac rydym yn credu y gallwn ganiatáu i ragor o bobl sy’n byw mewn cartrefi gofal dreulio amser gwerthfawr gyda’u teuluoedd a’u ffrindiau dros gyfnod y Nadolig.”