Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod 892 o achosion newydd o’r coronafeirws yng Nghymru, gan ddod a chyfanswm yr achosion sydd wedi’u cadarnhau i 73,233.

Cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod naw marwolaeth arall wedi bod yng Nghymru.

Cyfanswm y marwolaethau ers dechrau’r pandemig yw 2,385.