Mae teyrngedau wedi’u rhoi i ddynes 58 oed fu farw mewn gwrthdrawiad a char ger Castell Gwrych yn Abergele nos Sadwrn (Tachwedd 21).

Bu farw Sharn Iona Hughes, o Brestatyn yn y fan a’r lle ar ôl iddi fod mewn gwrthdrawiad a char Volvo glas ar yr A547 ger Abergele tua 5pm ddydd Sadwrn.

Dywedodd ei theulu mewn datganiad bod Sharn Hughes yn wraig a mam gariadus, ac yn llawn bywyd. Roedd hi wedi cael ei tharo gan gar wrth iddi gerdded i weld y goleuadau yng Nghastell Gwrych lle mae’r gyfres I’m a Celebrity… Get Me Out of Here! yn cael ei ffilmio ar hyn o bryd.

“Ry’n ni wedi torri’n calonnau. Roedd hi’n gobeithio tynnu llun i’w anfon at ffrind. Ry’n ni’n gwybod bod nifer o bobl eraill wedi gwneud yr un fath neu’n bwriadu gwneud. Ry’n ni’n annog pobl i fod yn ofalus iawn ac i gofio ei bod yn ffordd brysur iawn,” ychwanegodd ei theulu.

Mae Heddlu’r Gogledd yn parhau i apelio am dystion i’r gwrthdrawiad ac i gysylltu â nhw ar 101.