Bydd ‘podiau cyfarfod’ dros dro yn cael eu gosod mewn cartrefi gofal yng Nghymru er mwyn i deuluoedd allu ymweld â phreswylwyr.

Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, y bydd cynllun peilot gwerth £3 miliwn yn golygu bod 30 pod cychwynnol yn cael eu rhoi mewn lleoliadau gofal cyn cyfnod y Nadolig, gyda chyfanswm o 100 i’w gosod yn ddiweddarach am gyfnod o chwe mis.

Mae’r ffigwr hefyd yn cynnwys £1 miliwn i gefnogi darparwyr gofal sydd am wneud eu trefniadau eu hunain i hwyluso ymweliadau.

Dywedodd Vaughan Gething  y byddai’r ‘podiau cyfarfod’ yn ehangu capasiti mewn cartrefi gofal nad oes ganddynt le i ymweld yn fewnol ac sy’n ei chael yn anodd darparu ar gyfer ymweliadau cymdeithasol gan bobol o’r tu allan.

“Rydyn ni i gyd yn gwybod pa mor anodd fu’r misoedd diwethaf i bobl sy’n byw mewn cartrefi gofal a’u hanwyliaid, ond mae sicrhau diogelwch ein pobol fwyaf bregus yn flaenoriaeth,” meddai.

“Rydym yn cydnabod y trallod a’r tristwch a welwyd ers mis Mawrth, ond hefyd yr awydd gan gartrefi gofal i hwyluso ymweliadau cyn ac yn ystod y Nadolig yn ogystal â thrwy gydol y gaeaf.

“Ar ôl ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, rydym yn hyderus bod yr unedau hyn yn ffordd o alluogi ymweliadau i ddigwydd.

“Bydd y cynllun peilot yn ein helpu i ddeall a yw podiau cyfarfod yn ffordd effeithiol ac ymarferol o gefnogi ymweliadau.”

“Dealltwriaeth well o’r ffordd mae’r feirws yn lledaenu”

Ym mis Gorffennaf, beirniadwyd Llywodraeth Cymru yn hallt gan bwyllgor iechyd y Senedd am ei hymdriniaeth â chartrefi gofal ar ddechrau’r pandemig – dywedwyd bod gweinidogion wedi bod yn rhy araf i lansio trefn brofi ar gyfer staff a phreswylwyr.

Yn ddiweddarach, datgelwyd bod 53 o bobl wedi’u rhyddhau o’r ysbyty i gartrefi gofal yng Nghymru rhwng 1 Mawrth a Mai 31, a hynny o fewn 15 diwrnod iddynt brofi’n bositif am y coronafeirws.

Ddydd Gwener yr wythnos ddiwethaf (Tachwedd 20), datgelwyd bod 15 o drigolion wedi marw mewn cyfnod o dair wythnos yn dilyn achos o’r coronafeirws yng Nghartref Gofal Llangollen Fechan yn Llangollen.

Dywedodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, bod y rheolau ynghylch cartrefi gofal “yn llawer cryfach nawr nag yr oeddent yn ôl yn y gwanwyn”, a bod gan y llywodraeth “ddealltwriaeth well o’r ffordd mae’r feirws yn lledaenu”.

Ychwanegodd bod preswylwyr cartrefi gofal a staff yn rhan o drafodaethau ynglyn a pha grwpiau fydd yn cael defnyddio profion newydd sy’n gallu canfod y firws o fewn 20 munud mewn pobl sydd heb symptomau.

Ymateb y Ceidwadwyr

Mae Andrew RT Davies AoS – Gweinidog Iechyd Cysgodol y Ceidwadwyr – wedi rhoi croeso gofalus i’r cyhoeddiad:

“Ar yr wyneb, rwy’n croesawu unrhyw fesurau i leddfu’r trallod y mae llawer mewn cartrefi gofal wedi’i brofi drwy beidio â gallu gweld eu hanwyliaid mewn amgylchedd diogel.

“Fodd bynnag, y drafferth gyda mesurau ‘dros dro’ yw eu bod yn aml yn dod yn barhaol. Ni allwn adael i hyn ddod yn ‘normal newydd’ i rai o’n dinasyddion mwyaf agored i niwed.”

Ychwanegodd Mr Davies:

“Mae preswylwyr cartrefi gofal a’u teuluoedd wedi dioddef ddwywaith yn ystod y pandemig hwn, gyda chyfraddau marwolaeth uchel pobl â Covid, ac o wahanu, mewn rhai achosion am wyth mis, oddi wrth eu teuluoedd.

“Mae’r arwahanrwydd hwn wedi arwain at deimladau o ddryswch ac iselder neu wedi gwaethygu, ac rwy’n gobeithio y bydd y podiau hyn yn lleddfu rhywfaint o hynny cyn dychwelyd i gyswllt gwirioneddol ac ystyrlon – eistedd i lawr am baned gyda’ch tad neu’ch mam, a gallu rhoi cwtsh iddynt er enghraifft – yn gallu digwydd.”