Mae Llywodraeth San Steffan wedi dweud y bydd cyfyngiadau coronafeirws yn cael eu llacio am “ychydig o ddyddiau” dros y Nadolig er mwyn caniatáu lefel gyfyngedig o gymysgu rhwng aelwydydd.

Bydd y Prif Weinidog Boris Johnson yn nodi sail y cynlluniau ar gyfer cyfnod yr ŵyl ledled y Deyrnas Unedig ddydd Llun (Tachwedd 23), yn ogystal â manylu ar system tair haen newydd ar gyfer Lloegr pan ddaw cyfyngiadau presennol y wlad honno i ben ar Ragfyr 2.

Cynhaliodd Gweinidog Swyddfa’r Cabinet, Michael Gove, gyfarfod gydag arweinwyr y llywodraethau datganoledig dros y penwythnos i drafod y cynlluniau.

Ond bydd y cyhoedd yn cael eu “cynghori i barhau i fod yn ofalus” ac “lle bynnag y bo modd dylai pobol osgoi teithio a lleihau cyswllt cymdeithasol”, meddai datganiad gan ei adran.

Sêl bendith

Dywedodd Swyddfa’r Cabinet bod trafodaethau’n parhau i gwblhau’r cytundeb, gan gynnwys trefniadau teithio, ond y gobaith yw y daw’r cytundeb “yr wythnos hon”.

Mae Llywodraeth yr Alban yn mynnu “nad oes cytundeb wedi’i wneud”.

A ni fydd y manylion llawn yn cael eu rhyddhau nes bod y llywodraethau datganoledig wedi rhoi sêl bendith i’r cynllun.

Fe wnaeth Michael Gove, Nicola Sturgeon, Mark Drakeford ac Arlene Foster ailadrodd “pwysigrwydd caniatáu i deuluoedd a ffrindiau gyfarfod mewn ffordd ofalus” mewn cyfarfod ddydd Sadwrn (Tachwedd 21).

Roedden nhw hefyd yn cydnabod “na fydd yn gyfnod Nadoligaidd arferol” tra bod “risgiau trosglwyddo yn parhau i fod yn fygythiad go iawn”, yn ôl datganiad Swyddfa’r Cabinet.

Mae disgwyl i drafodaethau barhau gyda Llywodraeth Iwerddon fel y gall ffrindiau a theulu gymysgu ar draws ynys Iwerddon tua’r Nadolig.

Daw’r cynlluniau i’r amlwg wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddweud bod 739 o bobl eraill wedi marw o’r coronafeirws, gan ddod â chyfanswm y Deyrnas Unedig i 55,024.

“Bydd pris i’w dalu”

Dywedodd yr Athro Calum Semple, sy’n aelod o bwyllgor Sage: “Mewn gwirionedd ni allwn wahardd y Nadolig” oherwydd byddai’n “arwain at dorri amodau”.

Dywedodd y byddai angen i’r cyrffyw 10 o’r gloch mewn tafarndai gael ei lywio’n well er mwyn atal pawb rhag llenwi’r strydoedd yn ystod yr amser cau.

Dywedodd cydweithiwr ar Sage, yr Athro Syr David Spiegelhalter ei bod hi’n “berffaith resymol” dychwelyd i ddull haenog ond rhybuddiodd y “bydd pris i’w dalu”.

“Bydd pris i’w dalu amdano, yn amlwg, byddwch yn llacio’r cyfyngiadau a bydd cyfraddau heintio’n codi, rydych chi’n cyfyngu a bydd cyfraddau heintio yn gostwng,” meddai wrth Times Radio.