Mae cyn-Arlywydd Ffrainc Nicolas Sarkozy yn wynebu achos llys am lygredd.

Mae’r gwleidydd 65 oed wedi wynebu sawl ymchwiliad barnwrol arall ers gadael ei swydd yn 2012.

Mae Sarkozy wedi’i gyhuddo o geisio cael gwybodaeth yn anghyfreithlon gan ynad, a hynny ynghylch ymchwiliad oedd yn ei gynnwys yn 2014.

Mae’n wynebu achos ym Mharis ynghyd â’i gyfreithiwr Thierry Herzog, 65, a’r ynad, Gilbert Azibert, 73.

Maent yn wynebu dedfryd o garchar o hyd at 10 mlynedd ac uchafswm dirwy o filiwn ewro (£900,000) os byddant yn euog.

Mae gwrandawiadau wedi’u trefnu tan Ragfyr 10.

Mae Sarkozy ac Herzog wedi’u cyhuddo o addo swydd i Azibert yn Monaco yn gyfnewid am ddatgelu gwybodaeth am ymchwiliad i amheuaeth o ariannu ymgyrch arlywyddol anghyfreithlon.

Dywedodd Sarkozy ei fod mewn hwyliau “ymosodol” a bod y gwirionedd “yn dod allan o’r diwedd”.

Ail achos

Yn y cyfamser, bydd y cyn-Arlywydd yn wynebu achos arall yng ngwanwyn 2021 ynghyd â 13 o bobl eraill ar gyhuddiadau o ariannu ei ymgyrch arlywyddol yn 2012 yn anghyfreithlon.

Mae ei blaid geidwadol a chwmni o’r enw Bygmalion wedi’u cyhuddo o ddefnyddio system anfonebau arbennig i guddio gorwario.

Gallan nhw fod wedi gwario 42.8 miliwn ewro (£38 miliwn), bron ddwywaith yr uchafswm a awdurdodwyd, i ariannu’r ymgyrch.

Gwrthwynebwr Sarkozy, Fancois Hollande, enillodd yr ymgyrch yn y pen draw.