Bydd ysgolion yn ardal Aberteifi yng Ngheredigion yn cau am bythefnos ar ôl twf mewn achosion o’r coronafeirws yn yr ardal.
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cadarnhau y bydd yr ysgolion canlynol ar gau ddydd Llun Tachwedd 23 tan Rhagfyr 7:
· Ysgol Uwchradd Aberteifi
· Ysgol Gynradd Aberteifi
· Ysgol Gynradd Penparc
· Ysgol Gynradd Aberporth
· Ysgol Gynradd T. Llew Jones
· Ysgol Gynradd Llechryd
· Ysgol Gynradd Cenarth
Mae Cyngor Sir Benfro wedi cadarnhau y bydd yr ysgolion canlynol yn cau, ond does dim cadarnhad tan pryd:
· Ysgol y Preseli
· Ysgol y Frenni
· Ysgol Eglwyswrw
· Ysgol Llandudoch
· Ysgol Cilgerran
· Ysgol Clydau
Mae Coleg Ceredigion hefyd wedi cyhoeddi bydd holl ddysgu ar-lein am y pythefnos nesaf.
Bydd Meithrinfeydd yn Aberteifi ac Aberporth hefyd ar gau tan 7 Rhagfyr.
Bydd Llyfrgell Aberteifi ar gau ond bydd gwasanaeth clicio a chasglu yn parhau.
Mae nifer o fusnesau hefyd wedi dewis cau yn sgil y cynnydd mewn achosion.
Daw hyn ar ôl i Gyngor Sir Ceredigion rybuddio pobol i barhau i ddilyn y cyfyngiadau coronafeirws dros y penwythnos, wrth i nifer yr achosion godi i’w lefel uchaf ers dechrau’r pandemig.
Ac mae’r Cyngor yn dal i annog trigolion i ddilyn canllawiau’r coronafeirws ar ôl i 21 achos gael eu cofnodi yn y sir ddydd Sul (Tachwedd 22).
“Pryderus iawn”
Mewn llythyr at rieni, dywedodd Prif Swyddog Addysg Cyngor Sir Ceredigion, Meinir Ebbsworth: “Rydym yn bryderus iawn am ledaeniad coronafeirws yn ardal Aberteifi.
“Mae nifer sylweddol o achosion positif diweddar wedi arwain at nifer uchel iawn o bobol yn cael eu nodi fel cyswllt i achos positif.
“Mae gan lawer o’r cysylltiadau hyn symptomau coronafeirws erbyn hyn ac rydym yn aros am ganlyniadau’r profion.
“Mae ysgolion wedi gweithio’n ddiflino i gadw’ch plant yn ddiogel.
“Mae’r achosion hyn yn gysylltiedig â gweithredoedd y gymuned ac nid â gweithredoedd ysgolion lleol.
“Mae tystiolaeth lethol bod cyflymder a lledaeniad y feirws yn ardal Aberteifi yn golygu bod angen gweithredu ar unwaith.”
Digwyddiadau cymdeithasol a phartïon ydy “craidd” y broblem
Digwyddiadau cymdeithasol a phartïon ydy “craidd” y broblem, meddai arweinydd y cyngor.
Ar y Post Cyntaf ar Radio Cymru dydd Llun, dywedodd Ellen ap Gwynn bod y sefyllfa’n “wahanol y tro yma achos dyw e ddim mewn lle cyfyngedig”.
“Mae hwn yn y gymuned, os ydy pobl yn ymwneud â’i gilydd yn lleol yn Aberteifi mae yna beryg i’r haint ’ma i ledaenu llawer yn gyflymach na mae wedi bod yn y gwneud.
“Ar ôl i’r clo bach ddod i ben dwi’n credu o’dd pawb yn meddwl, ‘o hwre, ’da ni’n rhydd,’ ac mae yna ambell barti wedi cael eu cynnal…”
“Mae yna beryg yn y gymuned lle bynnag ’da ni’n byw ac mae jyst neges gen i, byddwch yn ofalus achos dyna beth sy’n digwydd pan rydych chi’n meddwl bod popeth yn iawn a dyw e ddim.”