Gall brechlyn coronafeirws sydd wedi’i ddatblygu yn y Deyrnas Unedig atal o leiaf 70.4% o bobl rhag cael Covid-19, yn ôl data newydd.

Fodd bynnag, awgrymodd un o’r patrymau dosio a ddefnyddiwyd gan y gwyddonwyr effeithiolrwydd o 90%.

Cyhoeddodd AstraZeneca a Phrifysgol Rhydychen fod eu pigiad yn effeithiol o ran atal llawer o bobl rhag mynd yn sâl – a dangoswyd ei fod yn gweithio mewn gwahanol grwpiau oedran, gan gynnwys yr henoed.

Dywedodd yr Athro Andrew Pollard, prif ymchwilydd Treial Brechlyn Rhydychen: “Mae’r canfyddiadau hyn yn dangos bod gennym frechlyn effeithiol a fydd yn achub llawer o fywydau.

“Rydym wedi canfod y gallai un o’n patrymau dosio fod tua 90% effeithiol ac, os defnyddir y drefn ddosio hon, gellid brechu mwy o bobl gyda’r cyflenwad o frechlynnau a gynlluniwyd.”

Trydarodd yr Ysgrifennydd Busnes, Alok Sharma AS: “Data addawol iawn o dreialon clinigol Cam III Rhydychen/AstraZeneca.

“Rydym ar drothwy datblygiad gwyddonol enfawr a allai ddiogelu miliynau o fywydau.

“Mae’r Deyrnas Unedig wedi sicrhau mynediad cynnar i 100m o ddosau o’u brechlyn – ar ben 255m o ddosau gan ddatblygwyr eraill.”

Dywedodd Pascal Soriot, prif swyddog gweithredol AstraZeneca, fod y newyddion yn “garreg filltir bwysig” yn y frwydr yn erbyn y pandemig.

Ychwanegodd: “Mae effeithiolrwydd a diogelwch y brechlyn hwn yn cadarnhau y bydd yn effeithiol iawn yn erbyn Covid-19 ac y bydd yn cael effaith ar unwaith ar yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn.

“At hynny, mae cadwyn gyflenwi syml y brechlyn a’n haddewid di-elw a’n hymrwymiad i fynediad eang, teg, ac amserol, yn golygu y bydd yn fforddiadwy ac ar gael yn fyd-eang, gan gyflenwi cannoedd o filiynau o ddosau pan gaiff ei gymeradwyo.”

Dywedodd Sarah Gilbert, athro brechlynnau ym Mhrifysgol Rhydychen: “Mae’r cyhoeddiad heddiw yn mynd â ni gam arall yn nes at yr adeg pan allwn ddefnyddio brechlynnau i ddod â’r dinistr a achoswyd [gan Covid-19] i ben.

“Byddwn yn parhau i weithio i ddarparu’r wybodaeth fanwl i reoleiddwyr. Mae wedi bod yn fraint cael bod yn rhan o’r ymdrech amlwladol hon a fydd o fudd i’r byd i gyd.”

Mae’r DU wedi gosod archebion am 100 miliwn o ddosau o frechlyn Rhydychen – digon i frechu’r rhan fwyaf o’r boblogaeth – gan ddisgwyl dechrau cyflwyno yn ystod yr wythnosau nesaf os caiff y brechlyn ei gymeradwyo.

Mae gan Brydain hefyd archebion ar gyfer 40 miliwn dos o frechlyn gan Pfizer a BioNTech, y dangoswyd ei fod 95% yn effeithiol.

Mae brechlyn arall, gan Moderna, yn 95% effeithiol, yn ôl treialon.