Mae gorchymyn gwasgaru a ddaeth i rym yng nghanol dinas Caerdydd yn dilyn digwyddiad treisgar yno neithiwr (nos Sadwrn, Tachwedd 21) wedi cael ei ymestyn tan ddydd Mawrth (Tachwedd 24).

Mae modd i’r heddlu symud pobol o ganol y ddinas am hyd at 24 awr yn sgil y gorchymyn a gafodd ei gyflwyno ar ôl i chwe pherson orfod mynd i’r ysbyty.

Mae’r heddlu’n dweud bod y digwyddiad yn “gwbl annerbyniol” ond fod canol y brifddinas yn dal yn ddiogel serch hynny.

Mae mwy o blismyn nag arfer yn y brifddinas ar hyn o bryd, a bydd modd iddyn nhw symud unrhyw un sy’n ymddwyn yn wrthgymdeithasol neu mewn modd amheus.

Mae pedwar o lanciau, 16 ac 17 oed, a gafodd eu harestio ar amheuaeth o ymddygiad treisgar, yn y ddalfa o hyd.

Mae pedwar o bobol yn dal yn yr ysbyty, ond dydy eu bywydau ddim mewn perygl.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.