Mae Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, yn dweud bod “posibilrwydd” y bydd brechlyn coronafeirws yn barod cyn y Nadolig yn dilyn cyfres o dreialon llwyddiannus.
Ond mae’n gwrthod dweud pryd y bydd ar gael i bawb, gan ddweud bod y sefyllfa’n ddibynnol ar wirio diogelwch brechlyn Pfizer.
“Os yw e ar gael cyn y Nadolig, mae gyda ni gynllun i allu dechrau brechu pobol yn ystod y flwyddyn galendr hon,” meddai wrth raglen Sunday Politics Wales y BBC.
“I’w gael i’r holl boblogaeth, mae hynny’n dibynnu ar frechlynnau eraill fydd ar gael, a dydyn ni ddim yn gallu rheoli hynny chwaith.
“Fyddwn i ddim eisiau rhoi amserlen i’w gael i’r holl boblogaeth.”
Dywed ei fod yn gobeithio cyhoeddi “yn yr wythnos nesaf” pwy fydd yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer profion cyflym.