Mae Democratiaid Rhyddfrydol Aberconwy yn galw am roi’r hawl i bobol bostio cardiau ac anrhegion i gartrefi gofal yn rhad ac am ddim am weddill y flwyddyn.
Daw’r alwad gan Rhys Jones, ymgeisydd ei blaid ar gyfer etholiadau’r Senedd, wrth ymateb i gynllun tebyg yn Iwerddon.
Mae An Post, gwasanaeth post Iwerddon, wedi cyhoeddi y bydd yn cludo llythyrau, amlenni mawr, pecynnau a pharseli sy’n pwyso hyd at 2kg yn rhad ac am ddim i gartrefi gofal a chartrefi nyrsio tan Ionawr 31.
“Mae’r coronafeirws wedi gadael nifer o bobol sy’n byw mewn cartrefi gofal wedi’u torri i ffwrdd o gael cysylltiad efo’u hanwyliaid,” meddai Rhys Jones.
“Efo cyfnodau clo yn bosib dros gyfnod y Nadolig, mae am fod yn bwysicach nag erioed idyn nhw gael rhywbeth gan eu teuluoedd os na fedran nhw eu gweld nhw yn y cnawd.
“Byddai cyflwyno postio rhad ac am ddim i gartrefi gofal tan y flwyddyn newydd yn gymorth mawr i nifer o bobol – ac yn helpu i gadw cyswllt rhwng teuluoedd a ffrindiau yn ystod adeg a allai fod yn unig iawn i gynifer o bobol.”