Mae tîm rheoli arbennig wedi ei sefydlu gan yr awdurdodau ar ôl i 15 o bobol farw mewn cartref gofal preifat yn Llangollen.
Dros y tair wythnos diwethaf mae 56 o breswylwyr cartref Llangollen Fechan wedi profi’n bositif am y feirws, gan arwain at 15 marwolaeth.
Mae 33 o staff sy’n gweithio yn y cartref hefyd wedi profi’n bositif am y feirws dros yr un cyfnod.
Mae’r tîm Rheoli Digwyddiad yn cynnwys swyddogion Cyngor Sir Ddinbych, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
“Rydym wedi bod yn gweithio gyda’n gilydd i ymchwilio i achosion o coronafeirws ymysg staff a phreswylwyr cartref gofal Llangollen Fechan yn Llangollen,” meddai Cyd-gadeirydd y Tîm, Nicola Stubbins.
“Dros y tair wythnos diwethaf, mae’n drist gennym gofnodi bod 56 o achosion positif ac 15 marwolaeth gyda coronafeirws ymysg preswylwyr.
“Mae ein cydymdeimladau ac ein meddyliau gyda’r rhai sydd wedi’i heffeithio ac rydym yn ymrwymedig i weithio gyda’n gilydd i ddelio gyda’r sefyllfa.”
“Dychrynllyd”
Ymatebodd Andrew RT Davies MS, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Iechyd, gan ddweud: “Mae hyn yn ddychrynllyd, ac mae fy nghydymdeimlad a’m cydymdeimlad yn mynd at y teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid yn y cartref gofal Llangollen hwn yn drasig.
“Mae hyn yn codi cwestiynau difrifol ynghylch profi a rheoli heintiau yn un o’r lleoliadau mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, ac ar yr adeg hon o’r pandemig o ystyried y wybodaeth rydym wedi’i chael wrth drosglwyddo, mae’n peri pryder mawr.
“Rhaid i weinidog iechyd Llafur gychwyn ymchwiliad brys i achosion o’r fath a phrofion uniongyrchol ac adnoddau ariannol i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.”