Mae cynllun profi torfol yn cael ei lansio ym Merthyr Tudful heddiw (dydd Sadwrn, Tachwedd 21) yn y gobaith y bydd yn helpu i ddod o hyd i ragor o achosion o’r feirws ymhlith pobol sydd heb symtomau.

Bydd unrhyw un sy’n byw neu’n gweithio yn y sir yn cael cynnig prawf, ac mae plant dros 11 oed hefyd yn cael eu hannog i gael prawf.

Mae’r lluoedd arfog yn cynorthwyo’r ymdrechion, wrth i Ganolfan Hamdden Merthyr Tudful ddechrau’r broses.

Ond mae pryderon y bydd yn gorfodi pobol i fynd i dlodi pe baen nhw’n gorfod hunanynysu cyn y Nadolig, ac mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cynllun ar gyfer y rhai sydd ar gyflogau isel.

Ac mae llinell gymorth hefyd ar gael i’r rhai sy’n cael prawf positif neu sydd wedi cael cyngor i hunanynysu drwy’r system olrhain cysylltiadau.

Gallai’r cynllun weld hyd at 60,000 o bobol yn cael profion.

Ddoe (dydd Gwener, Tachwedd 20), roedd gan y sir gyfradd o 245.3 o achosion ym mhob 100,000 o’r boblogaeth yn ystod yr wythnos ddiwethaf – dim ond Blaenau Gwent (365) a Rhondda Cynon Taf (250.8) oedd â chyfraddau uwch yn ystod y cyfnod hwn.