Mae cyn-Ysgrifennydd Parhaol y Swyddfa Gartref wedi beirniadu Boris Johnson, prif weinidog Prydain, am gadw’n dawel yn dilyn honiadau o fwlio gan yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel.
Yn ôl Syr David Normington, mae’r sefyllfa’n “annerbyniol”.
Fe ddaw ar ôl i Alex Allan, ymgynghorydd annibynnol, ymddiswyddo yn dilyn canlyniadau arolwg oedd yn awgrymu bod Priti Patel wedi bwlio aelodau o staff mewn tair adran.
“Mae angen cydnabyddiaeth ganddi hi a’r prif weinidog iddi ddod i’r amlwg ei bod hi wedi bwlio staff, o bosib mewn tair adran ac nid dim ond yn y Swyddfa Gartref, ac mae hynny’n gwbl annerbyniol,” meddai Syr David Normington wrth raglen Today ar Radio 4.
“Mae’r prif weinidog, yn syml iawn, wedi rhoi casgliadau adroddiad a’r ymgynghorydd annibynnol Alex Allan ei bod hi’n fwli o’r neilltu, a ddylech chi ddim cael bwlis yn y llywodraeth.
“Rydyn ni wedi rhoi ein hunain yn sefyllfa’r rhai sydd wedi’u bwlio.
“Does neb wedi siarad drostyn nhw, mae rhai ohonyn nhw’n aelodau iau o stff a fydd yn eistedd yno heddiw yn meddwl na chafodd eu lleisiau eu clywed ac allwch chi ddim dibynnu ar y prif weinidog i sefyll i fyny drostyn nhw.
“Am y tro cyntaf ers cyn cof, mae gennym brif weinidog sy’n ymddangos fel nad yw’n fodlon sefyll i fyny dros safonau uchel ym mywyd cyhoeddus.