Mae heddluoedd y Gogledd a Dyfed-Powys ymhlith deg o heddluoedd sydd wedi derbyn llythyr yn galw am adolygu dirwyon coronafeirws.

Yn ôl ymgyrchwyr Liberty a Big Brother Watch, mae’r dirwyon yn gwahaniaethu yn erbyn pobol ac maen nhw wedi anfon llythyr at Brif Gwnstabliaid heddluoedd maen nhw’n honni sydd â’r “record waethaf o wahaniaethu” o ran pwerau’r cyfnod clo.

Maen nhw’n dymuno gweld dirwyon yn cael eu hadolygu hefyd fel eu bod nhw’n unol â deddfau cydraddoldeb.

Yr heddluoedd eraill sydd dan y lach yw Cumbria, Swydd Derby, Swydd Lincoln, Suffolk, Gorllewin Mercia, Gogledd Swydd Efrog, Swydd Gaerhirfryn a Sussex.

Ac mae’r ymgyrchwyr hefyd yn galw am adolygiad i ddirwyon dros £10,000 gydag adroddiadau bod rhai heddluoedd yn dal i’w rhoi nhw yn groes i gyngor i roi’r gorau iddyn nhw ddydd Gwener diwethaf (Tachwedd 13) ar ôl i benaethiaid yr heddlu dynnu sylw at y gwahaniaeth rhwng y dirwyon hyn a’r rhai sy’n cael eu rhoi a’u derbyn fel Hysbysiad Cosb Benodedig yn y llys.

Mae Hysbysiadau Cosb Benodedig yn unol â phrawf moddion, sy’n golygu bod rhaid ystyried incwm y rhai sy’n eu derbyn nhw, ac felly mae gan y rhai tlotaf lai o siawns o allu talu i fynd â’u hapêl i’r llys a’u bod nhw felly yn talu’r swm llawn o fewn 28 diwrnod.

Ymateb ymgyrchwyr

“Mae’r pandemig yma wedi bod yn eithriadol o anodd i ni i gyd ond i rai, fe fu bygythiad ychwanegol o gael eu gwneud yn droseddwyr a derbyn cosbau ariannol difrifol, a rhai o’r rheiny wedi’u rhoi yn anghyfreithlon,” meddai Grey Collier, cyfarwyddwr eiriolaeth Liberty.

“Wrth flaenoriaethu cyfiawnder troseddol dros iechyd cyhoeddus, fe wnaeth y Llywodraeth osod y seiliau ar gyfer plismona rhy llym a gwympodd galetaf ac yn fwyaf annheg ar bobol o liw.

“Rhaid i’r llywodraeth a’r heddlu ddysgu o gamgymeriadau’r cyfnod clo cyntaf.

“Os nad ydyn nhw’n gwneud hynny, bydd unrhyw ewyllys da sydd ar ôl yn gostwng.

“Rhaid mai’r man cychwyn yw adolygu’r dirwyon sydd wedi’u rhoi eisoes.

“Yna, mae angen strategaeth pandemig sy’n gwarchod hawlio, yn adeiladu ymddiriedaeth ac yn ein cadw ni’n ddiogel.”

Ac mae Big Brother Watch yn dweud nad yw ymateb heddluoedd wrth ddileu dirwyon yn syndod.

“Nid yw’n syndod fod nifer o heddluoedd eisoes wedi cael eu gorfodi i ddileu dirwyon, o ystyried y dryswch sylweddol a pharhaus ledled y wlad ynghylch beth yw’r rheolau,” meddai Silkie Carlo, cyfarwyddwr y mudiad.

“Wrth i ni wynebu gaeaf o gyfnodau clo, mae’n fwy hanfodol nag erioed fod heddluoedd yn adolygu ar frys nifer y dirwyon sydd wedi’u rhoi.”

Ymateb yr heddlu

Yn ôl Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, gall y rhai sy’n torri’r gyfraith ddisgwyl cael eu cosbi.

“Mae’r rheolau i atal ymlediad y coronafeirws yno i’n gwarchod ni i gyd,” meddai llefarydd.

“Gall y lleiafrif bach iawn sy’n gwneud penderfyniadau sy’n peryglu bywydau ac yn gwrthod ymgysylltu â’r heddlu ddisgwyl camau yn eu herbyn.

“Bydd pobol sy’n cael eu canfod yn torri’r rheolau mewn perthynas â chynulliadau dros 30 o bobol yn gwbl ymwybodol o’u hopsiynau wrth wynebu Hysbysiad Cosb Benodedig o £10,000.

“Gall pawb sy’n derbyn dirwy wrthwynebu hyn yn y llys.”