Mae cyfres o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal gan Gymdeithas yr Iaith heddiw (dydd Sadwrn, Tachwedd 21) i dynnu sylw at yr argyfwng tai yng Nghymru.

Bydd ymgyrchwyr mewn ralïau yng Nghaerfyrddin a Llanberis, yn ogystal â rhai fydd yn cerdded saith milltir o Lanrhystud i Aberaeron, yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn eu gallu i fynd i’r afael â’r sefyllfa, gan gynnwys rhoi mwy o rym i awdurdodau lleol i reoli’r farchnad dai a chyflwyno Deddf Eiddo.

Mae’r digwyddiadau’n rhan o ymgyrch ehangach ‘Nid yw Cymru ar werth’ Cymdeithas yr Iaith, sydd wedi trefnu deiseb ar wefan y Senedd sydd wedi denu miloedd o lofnodion.

Y ralïau a’r digwyddiadau

Yn y brif rali yn Llanberis, fe fydd darpar ymgeisydd i’r Senedd Plaid Cymru yn Nwyfor-Meirionnydd Mabon ap Gwynfor, cadeirydd Grŵp Cymunedau Cymdeithas yr Iaith Elin Hywel, a chynghorydd tref Nefyn Rhys Tudur yn siarad.

Bydd Hywel Griffiths, Mirain Iwerydd a Bethan Ruth yn siarad yn y rali yn Aberaeron, a’r Cynghorydd Cefin Campbell, deilad portffolio Materion Gwledig Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Cris Tomos, deiliad portffolio Amgylchedd ac Iaith Cyngor Sir Benfro, a Sioned Elin yn siarad yng Nghaerfyrddin.

“Allwn ni ddim disgwyl nes etholiad llywodraeth newydd y flwyddyn nesaf, gan fod prisiau tai wedi codi gymaint yn yr ardaloedd gwledig fel bod teuluoedd lleol yn cael eu gorfodi o’r farchnad,” meddai Sioned Elin ar ran Cymdeithas yr Iaith.

“Mae angen i’r llywodraeth roi pecyn argyfwng o rymoedd i Awdurdodau Lleol yn awr i reoli’r sefyllfa.

“Mae’r ffaith fod dros 5,300 o bobl bellach wedi arwyddo’r ddeiseb yn pwysleisio’r angen yma am weithredu brys gan y Llywodraeth.”

Ac yn ôl Osian Jones, llefarydd ‘Nid yw Cymru ar werth’, “mae’r sefyllfa bresennol yn un tu hwnt o dorcalonnus”.

“Mae’r hawl i fyw adra yn rywbeth gwbl allweddol i unrhyw gymuned fyw ond yn anffodus, mewn nifer gynyddol o ardaloedd yng Nghymru mae pobol ifanc yn ei chael yn gwbl amhosib i ymgartrefu yn eu cymunedau,” meddai.

“Nid eu bai nhw ydy hyn wrth gwrs: mae’r broblem tu hwnt i’w rheolaeth nhw ac yn deillio o’r ffaith fod y system dai yn ran o’r farchnad agored sy’n golygu nad oes rheolaeth gyhoeddus ddigonol arni.

“Canlyniad hyn yw sytem dai sydd ddim yn gweithio er lles ein cymunedau a sydd bellach wedi datblygu i fod yn argyfwng.

“Oherwydd hyn, byddwn ni’n ymgyrchu ddydd Sadwrn i alw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cyfres o fesurau argyfyngol, fyddai’n cynnwys rhoi’r grymoedd i Awdurdodau Lleol reoli’r farchnad dai.

“Ac yn yr hirdymor, bydd angen i’r Llywodraeth gyflwyno cyfres o ddatrysiadau strwythurol, fel Deddf Eiddo, er mwyn sicrhau na fydd argyfwng o’r math yma’n digwydd eto a bod y farchnad dai yn gweithio er budd cymunedau, nid cyfalafiaeth.”