Mae Douglas Ross, arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, wedi cyhuddo’r SNP o fanteisio ar ddatganoli i hybu annibyniaeth ar draul helpu pobol a chymunedau.

Roedd yn ymateb ar Times Radio i sylwadau Boris Johnson, prif weinidog Prydain, a ddywedodd yn ddiweddar fod datganoli wedi bod yn “drychineb”.

“Nid am ddatganoli mae hyn,” meddai Douglas Ross.

“Ond lle mae gennym broblem yw fod llywodraeth genedlaetholgar yn defnyddio datganoli i ddatblygu eu huchelgais o annibyniaeth.

“Dw i’n credu y dylen ni fod yn defnyddio datganoli i helpu pobol a chymunedau ym mhob rhan o’r Alban [yn hytrach] na helpu nodau un blaid wleidyddol i wahanu’r Alban oddi wrth weddill y Deyrnas Unedig.”