Mae’r newyddiadurwr a’r awdur Jan Morris wedi marw yn 94 oed.

Cafodd ei marwolaeth ei chadarnhau gan ei mab, y prifardd a’r cerddor Twm Morys.

“Y bore ’ma am 11:40 yn Ysbyty Bryn Beryl yn Llŷn, cychwynnodd Jan Morris, yr awdur a’r teithiwr, ar ei siwrnai fwyaf,” meddai.

“Mae hi’n gadael ar y lan yma ei chymar oes, Elizabeth.”

Cafodd ei geni yn James Morris – i dad o Gymru ac i fam o Loegr – yn Clevedon, Gwlad yr Haf, ond yn fwy diweddar bu’n byw yn Llanystumdwy, Gwynedd.

Priododd James ei wraig Elizabeth Tuckniss yn 1949 ac mae ganddyn nhw dri mab ac un ferch – Twm Morys, Henry Morris, Mark Morris a Suki Morys.

Dywedodd Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru, Tŷ Newydd, yn Llanystumdwy:

“Rydyn ni’n hynod drist i glywed bod ein ffrind Jan Morris wedi marw heddiw.

“Dyna golled enfawr i Lanystumdwy ac i Gymru. Rydym yn anfon ein cydymdeimladau dwysaf at y teulu.”

Ysgrifennodd Jan Morris dros 40 o lyfrau gan gynnwys tri am yr ymerodraeth Brydeinig, Pax Britannica, yn ystod y 1960au a’r 70au.

Ym 1972, trosglwyddodd o fod yn ddyn i ddynes, gan gael llawdriniaeth a newid ei henw o James i Jan.

Y daith gyntaf i Everest

Hi oedd yr unig newyddiadurwr oedd ar y daith gyntaf i Everest gyda chriw Syr Edmund Hillary ac felly, hi oedd y person cyntaf i adrodd am y gamp.

Roedd hi’n gweithio i’r Times ar y pryd, ac mewn rhaglen ar BBC Radio 3 yn 2013 soniodd am ei hatgofion o anfon y newyddion yn ôl i Lundain ar fore coroni’r Frenhines.

Anfonodd hi aelodau’r criw i redeg o’r babell wrth droed Everest i Kathmandu, 180 o filltiroedd i ffwrdd, ac roedd yn rhaid iddyn nhw osgoi newyddiadurwyr y Dail Mail oedd yn awyddus i dorri’r stori.

“Doedd dim hawl gyda chi ddefnyddio radio, felly roedd rhaid i fi drefnu pobol i anfon y newyddion draw i Kathmandu.

“Roedd y cyfan yn rhamantaidd, wir! Fe glywais i yn y prynhawn eu bod nhw wedi cyrraedd y copa.

“Roedd hi’n dywyll erbyn y nos ac roeddwn i’n mynd i fynd fy hun, ond fe ges i gwmni i fynd.

“Y rhamant, y cyffro, roedd y Frenhines ar fin cael ei choroni. Allwch chi ddychmygu’r peth?”

Dywedodd mewn cyfweliad gyda Michael Palin yn 2016: “Dw i wedi mwynhau fy mywyd yn fawr iawn.

“Rwy’n credu ei fod wedi bod yn fywyd da a diddorol iawn.”