Gyda’r newyddion fod Jan Morris wedi marw’n 94 oed, dyma ailgyhoeddi erthygl a gafodd ei chyhoeddi yn Golwg yn 2009, yn dilyn ymweliad gan y gohebydd â chartref Jan Morris yn Llanystumdwy.

Cyhoeddodd yr awdur sawl llyfr ar ôl hyn, gan gynnwys Contact! A Book of Glimpses (2009), Contact! A Book of Encounters (2010), Ciao, Carpaccio! (2014), Battleship Yamato: Of War, Beauty and Irony (2018), In My Mind’s Eye: A Thought Diary (2018), a Thinking Again (2020).

***

This is a lovely smiling country, the mountains behind it, the sea in front, the river running freshly through…

Dyna ddisgrifiad yr awdur Jan Morris o fro Eifionydd yn ei llyfr am ei chartre’ yn Llanystumdwy, A Writer’s House in Wales.

Ynddo mae’r awdur yn sôn am gefndir Cymru a’r iaith, a’i chymdogion clên a’i chariad at y tŷ, Trefan Morys, hen stablau Plas Trefan. Y cyfan yn ei harddull agos-atoch-chi – mae hi’n sgubo’r gath Ibsen o’r ffordd i roi lle i’r darllenydd wrth y bwrdd bwyd, cyn rhoi gair am ryseitiau bwyd Elizabeth, ei chymar oes, a’i dywys wedyn trwy weddill y tŷ.

O wneud hynny go iawn, mae rhywun yn sylwi at gywirdeb y llyfr. Rhwng y lolfa drws nesa’ i’r gegin a hen lofft y gweision uwchben, mae dros 8,000 o lyfrau. I fyny’r grisiau, lle mae ei desg a’i laptop bach modern a dwy soffa gyffyrddus, y mae ei chasgliad o glasuron Ewropeaidd tra bod y llyfrau am hanes a llefydd, crefydd, celf, llongau ac anifeiliaid, a geiriaduron lu yn y lolfa.

Mae’r byd i gyd yno – America yn teyrnasu yn un gornel, yr Aifft draw fancw, a Chymru ym mhob man gan gynnwys ar sil y ffenestr – a’r awdur yn gallu troi ei llaw ar ba bynnag lyfr sy’n berthnasol i lif y sgwrs.

Ar silff sgwâr yng nghanol y lolfa mae ei holl lyfrau hi ei hun wedi’u rhwymo yn gain, yn cynnwys ei thrioleg ar yr Ymerdoraeth Brydeinig, Pax Britannica, ei gwaith enwoca’ falle.

Mae darluniau gwreiddiol yn harddu’r waliau drwy’r tŷ – sawl un o’u hen gartre’, Plas Trefan gerllaw, yn rhoddion gan ymwelwyr. Un sy’n tynnu sylw yw’r darlun olew enfawr o Fenis ar ben y grisiau, a brynodd ag arian a gafodd yn wobr am ei llyfr enwog ar y ddinas.

Bydd Venice yn 50 oed y flwyddyn nesa’ – ond dyw’n dyddio dim, a’r awdur yn cael “pleser mawr” o wybod bod ymwelwyr â’r lle hyd heddiw yn mynd â chopi gyda nhw.

Dyma yw ei llyfr mwya’ adnabyddus, er nad yr un gorau yn ei barn hi. Trieste and the Meaning of Nowhere yw hwnnw o 2001 – a dyna’r llyfr ola’ yr oedd hi wdi bwriadu ei gyhoeddi.

Nid felly y bu – yn 2006 diweddarodd ei nofel am ddinas ddychmygol Hav, Last Letter from Hav, a oedd ar restr fer gwobr y Booker yn 1985.

Daeth A Writer’s House in Wales wedyn. Yn yr hydref bydd hi’n cyhoeddi Contact! – pytiau byr am y bobol y mae wedi dod ar eu traws yn ystod ei hoes, wedi’u dewis o’r deugain a rhagor o lyfrau. Yr unig ddarnau taith y bydd hi’n sgrifennu nawr fydd ar gyfer y Financial Times.

Dyw ei harddull sgrifennu heb newid fawr ers hanner canrif, er ei bod hi wedi rhoi’r gorau i’r arfer o gyfeirio at ddinas fel ‘she.’ Jan Morris yw’r un sydd wastad ar y tu fas.

“Egotistiaeth pur,” meddai am ei llyfrau. “Amdanaf i y maen nhw bob tro. Heblaw y rhai mawr am yr Ymerodraeth Brydeinig. Ond mae’r rheiny yn rhannol hefyd – yn benodol, ymateb rhywun oedd yno ar y pryd oedden nhw.

“Fi yw’r dieithryn bob man. Fydda i byth yn trio rhoi fy hun yn sgidiau’r bobol dw i’n sgwennu amdanyn nhw. Y fi ydi o bob tro. Fy hanes i ydi o.”

Mae hi’n rhyfedd felly bod y teithiwr talog wedi creu cysylltiadau mor ddwfn â Chymru a dewis byw yma yn barhaol.

“Dyna’r un eithriad, a dweud y gwir,” medda. “Dyma’r unig le dw i’n teimlo wedi fy ngwreiddio ynddo. Mae’r syniad o Gymru yn fy nala i wastad.”

Dyw hi ddim yn siwr beth yw’r “syniad” hwnnw, ond ei bod yn amau mai’r tirwedd yw’r prif atynfa. Cafodd ei chyfareddu yn ddiweddar ar ei ffordd adre’ o Iwerddon, yn gweld y cymylau ger Llanberis.

“Wn i ddim,” meddai. “Pwy ŵyr. Ryw ffantasi ramantus ydi o. Fodd bynnag, mi fydd yn fy nharo i bob tro, y ffaith nad yw byth yn newid. Dw i wir yn credu mai’r tirwedd ydi o, yn fwy na dim byd arall. Ond yn bennaf, y syniad o Gymru.”

Yn A Writer’s House… mae hi’n dyfynnu ‘aros mae’r mynyddau mawr’ gan Ceiriog, gan ddweud ‘this one constant, in this protracted progress of the little nation, has been the Welsh landscape.’

Mae hi’n fantais bod yn hanner-Cymraes wrth sgrifennu am y wlad – “mae yn rhoi ryw berspectif ychwanegol, dw i’n meddwl,” meddai.

Cyfarfod â Che Guevara, a staeon eraill

Mae hi’n un difyr iawn i sgwrsio â hi, yn cadw’r sgwrs yn ysgafn a ffraeth, er yn gallu taflu sylw treiddgar ar bopeth ar wyneb daear.

Cafodd ddwy lawdriniaeth ar yr ymennydd rai blynyddoedd nôl, sydd wedi arafu ei chamau wrth gerdded ond heb effeithio ar ddim arall. Caiff gysur yn cymharu ei hun â’r hen Aztecs a fyddai’n arfer gwneud yr un math o lawdriniaeth ar y benglog. Roedd hi wastad yn heini – aeth ar daith fawr (o dan arweiniad) y Cyrnol John Hunt i fyny Everest yn 1953 ar ran The Times.

“Mi fydda i’n cerdded bob dydd,” meddai. “Mi fydda i’n 83 fis Hydref. Mae’n siwr na fedra i ddisgwyl gallu cerdded gystal ag yr o’n i.”

Rhyfedd yw clywed mai ei hoff le yn y byd yw Manhattan, canolbwynt grym y byd mawr gorllewinol.

“Mae’r byd i gyd yna,” meddai. “Mae o’n bopeth, pobman. Mae yn fwy nag America. Dw i’n dwlu ar America, wastad wedi. Efrog Newydd yw America wedi’i ddistyllu, ei gywasgu.”

Roedd hi’n arfer dweud y byddai’n hoffi mynd i fyw yn rhywle reit yng nghanol Manhattan ar ôl ymddeol – “dw i ddim mor siŵr nawr.”

“Dw i’n dal i ddweud,” meddai, “tawn i’n cael trawiad yn rhywle a chwympo yng nghanol y stryd, mi fuasai hi’n well gen i wneud hynny yng nghanol y 5th Avenue nag unrhyw le arall. Mi fydden nhw’n feddylgar a charedig. Mae hi’n ddinas garedig.

Caredigrwydd yw’r peth pwysica’ mewn bywyd ta beth. Po fwya’ caredig yw’r ddinas, po fwya’ dw i’n ei hoffi.”

Un lle nad yw hi’n hoff ohono yw Barcelona – “dinas galed, galed, pobol galed, galed, ond dawnus iawn… Does dim rheswm y dylech chi hoffi pobman.”

A’r un lle yr hoffai ei weld yw Lhasa yn Tibet. “Dw i wedi bod ar gyrion Tibet,” meddai. “Dw i wastad wedi taeru y baswn i’n mynd yno y diwrnod y byddai’r Dalai Lama yn dychwelyd i Balas Potala. Swn i’n cymryd yr awyren nesa’ i Lhasa, ond dyw e ddim yn edrych fel tae o’n mynd i ddigwydd.”

Heb ei llyfrau, byddai’n anodd dychmygu’r holl anturiaethau a’r profiadau y mae Jan Morris wedi eu cael. Cyn sgrifennu, buodd yn newyddiadurwr tramor gyda’r Times a’r Guardian.  Ymhlith yr enwogion y mae wedi cwrdd â nhw mae Che Guevara, yn fuan ar ôl y chwyldro yn Cuba.

“Roedd e’n swyddog cyllidol o ryw fath,” meddai. “Dw i ddim yn siŵr p’un a oedd o yn llywydd Banc Cuba ar y pryd. Ro’dd e yn fy nharo i fel gwas sifil clyfar, deallus iawn.”

Cyn gadael y tŷ a’i ardd flodeuog, a’r cwt pren â’i gloc sy’n cael ei reoli trwy radio o Frankfurt – “I’m devoted to it,” meddai’r awdur – mae gwerth aros ac edrych i fyny at y to. Ar y naill ochr mae yna benddelw o’r awdur, a gafodd ei wneud gan gerflunydd o Seland Newydd, ar gais “ffan go iawn” o Chicago. Ar yr ochr arall, mae penddelw dyn golygus.

“Dyna’r dyn y dw i’n mynd i gael affêr gydag o yn y byd arall,” medda’r awdur. Dyma ei “harwr” – yr Arglwydd Fisher o Kilverstone, Comander y Llynges, a fu farw yn 1920. Sgrifennodd lyfr arno, Fisher’s Face, yn 1995.

“Dw i wastad eisie i bobol edrych i fyny a gofyn ‘pwy ydi o’? Ond does neb byth yn sylwi arno fo.”

Y llyfr olaf?

Mae Jan Morris wedi sgrifennu llyfr na fydd hi byth yn gwybod pryd y caiff ei gyhoeddi. Allegorizings yw’r llyfr sydd yn nwylo gwasg Faber yn Llundain, na fydd yn gweld golau dydd nes iddi fod wedi marw.

Dyw hi ddim yn gwybod am unrhyw awdur arall sydd wedi gwneud rhywbeth tebyg.

“Fy meddyliau olaf,” meddai. “Mae pobol yn dweud, ‘o, mae gennych chi bob math o gyfrinachau i’w datgelu,’ ond does yna ddim byd felly. Dw i ddim yn dweud dim byd cas am neb.

“Yr hyna’ dw i’n mynd, y mwya’ dw i’n teimlo nad oes un ystyr i ddim byd. Felly mae hwn yn gasgliad o bethau dw i wedi’u cadw o’r darnau taith, sydd i gyd ag ystyr ddyfnach yn fy meddwl i.”

***

  • Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol yn Golwg yn 2009.