Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen

Welsh Woods and Forests, a History gan William Linnard. Mae’r llyfr wedi bod ar y silff ers ugain mlynedd a rŵan dw i’n ei ddarllen o glawr i glawr. Llyfr tu hwnt o ddiddorol am… wel, hanes coedwigoedd Cymru ar hyd yr oesoedd. Yn llawn dop o gyfeiriadau hanesyddol, chwedlonol ac enwau llefydd. Difyr iawn, yn enwedig rŵan gan fod Llywodraeth Cymru’n sôn am ddechrau ail-sefydlu Coedwig Genedlaethol.