Daeth cwestiwn cyntaf cynhadledd i’r wasg Llywodraeth Cymru heddiw (Tachwedd 13) gan un o gyn-chwaraewr pêl-droed Cymru.
Dechreuodd Robbie Savage drwy longyfarch y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, a’i dîm am y newid polisi sy’n golygu bod timau pêl-droed o dan 18 yng Nghymru nawr yn cael chwarae eto.
Gofynnodd i’r Gweinidog Iechyd: “Ond yn anochel, bydd rhieni eisiau mynd i weld eu plant yn chwarae, ond ni fyddan nhw’n cael. Pam nad yw pobol yn cael mynd i wylio pêl-droed, boed hynny ar lefel Cynghrair Cymru neu ar y lefelau is, er bod modd cadw pellter o ddau fetr?
Atebodd Vaughan Gething: “Mae hyn yn ymwneud â sut i gael balans yn ein cyfrifoldebau a sut yr ydym yn cadw ein gilydd yn saff.
“Ac fel rhieni, rydym eisiau sicrhau bod gweithgareddau ein plant yn gallu cael eu cynnal.
“Dw i’n mynd a fy mhlentyn i chwarae rygbi, er enghraifft… pan mae rhieni ar ochor y cae, eisiau cefnogi eu plant, ac mae’n rhywbeth dw i wedi mwynhau ei wneud fel rhiant.
“Ond mae’n rhaid i ni ystyried y risg… rydym yn parhau i adolygu’r rheolau ac yn parhau i edrych at y dyfodol. Ac os yr ydym yn teimlo bod modd gwneud newidiadau, byddwn yn gwneud hynny.”
“Arwyddion cynnar calonogol”
Mae yna “arwyddion cynnar calonogol” bod nifer yr achosion coronafeirws yng Nghymru yn gostwng yn dilyn y cyfnod clo byr, meddai’r Gweinidog Iechyd.
Ond roedd yn cydnabod bod y niferoedd sy’n cael eu derbyn i ysbytai yn “sylweddol”.
“Mae’n rhy gynnar i weld effaith y cyfnod clo ar gyfraddau’r feirws, ond mae’r rhain yn arwyddion cynnar cadarnhaol.
“Mae angen i ni barhau i adeiladu ar hyn a sicrhau nad ydyn ni’n llithro’n ôl wrth i ni ddod allan o’r cyfnod clo.”
Rhybuddiodd bobol i beidio ymddwyn fel nad oedd y feirws yn bodoli mwyach, yn enwedig gyda Chymru’n herio Iwerddon ar y cae rygbi yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref heno (Tachwedd 13).
Llacio rheolau dros y Nadolig?
Dywedodd Vaughan Gething fod Llywodraeth Cymru yn ystyried llacio rheolau sy’n atal pobl rhag ymgynnull tu fewn, dros gyfnod y Nadolig.
“Rydyn ni’n edrych ar yr hyn allwn ni wneud er mwyn addasu’r niferoedd o bobl sy’n cael ymgynnull y tu mewn,” meddai.
“Os ydych chi’n dathlu’r Nadolig fel digwyddiad crefyddol neu beidio, mae dal yn amser o’r flwyddyn ble mae pobl eisiau ymgynnull, ac yn aml mae’n anoddach gwneud hynny tu allan na thu fewn.
“Felly rydym yn ystyried amryw o bethau gwahanol gallwn wneud i geisio penderfynu ar y cyngor mwyaf addas i roi i bobl ynglŷn â sut i’w cadw nhw a’u teuluoedd yn ddiogel.”
£15m i gyflogi gweithwyr olrhain
Bydd Llywodraeth Cymru yn recriwtio 1,300 o weithwyr ychwanegol i gysylltu gydag, a chynghori pobol sy’n cael eu hamau o fod â’r coronafeirws, ar gost o £15.7 miliwn.
Mae’r Gweinidog Iechyd hefyd wedi cadarnhau y bydd y rheiny sy’n gorfod hunan-ynysu o ddydd Llun ymlaen, ac ar incwm isel, yn derbyn £500.
Mae tîm newydd yn cael ei sefydlu er mwyn cynorthwyo timau lleol pan mae yna gynnydd mawr mewn achosion lleol.
“Mae olrhain cysylltiadau yn rhan hollbwysig o’r strategaeth Profi, Olrhain a Diogelu i atal lledaeniad y feirws,” meddai Vaughan Gething.
“Mae’r system olrhain cysylltiadau wedi perfformio’n dda hyd yma, gyda dros 90% o gysylltiadau wedi cael eu holrhain yn llwyddiannus ers i’r system ddechrau cael ei gweithredu.
“Rydyn ni wedi defnyddio’r cyfnod clo byr i adolygu Profi, Olrhain a Diogelu i sicrhau ein bod yn gwella ein perfformiad wrth symud tuag at beth sy’n debygol o fod yn aeaf anodd, gyda’r posibilrwydd bydd achosion yn cynyddu.”