Mae’r Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol yn dweud bod Cymru angen “strwythur cyfryngau sy’n adlewyrchu ei balchder a’i huchelgeisiau fel cenedl”.
Daw’r alwad wedi i Delyth Jewell, yr Aelod o’r Senedd Plaid Cymru, ddweud fod peryg y gall gwendidau’r cyfryngau presennol yng Nghymru arwain at “ddiffyg democrataidd annerbyniol ac anghynaladwy”.
Ymhlith aelodau’r Cyngor sy’n credu fod gan Lywodraeth Cymru rôl hanfodol i’w chwarae wrth gywiro’r anghydbwysedd, mae sawl ffigwr amlwg o fyd darlledu a’r Wasg: Angharad Mair, Barrie Jones, Beti George, Betsan Powys, Bethan Jones Parry, Euros Lewis, Marc Webber, Nia Ceidiog, Owain Gwilym a Rhisiart Arwel.
Er nad oes gan y Cyngor a sefydlwyd yn 2018 unrhyw rym, maen nhw’n cynnig syniadau a chyhoeddi adroddiadau.
Anwybodaeth am ddatganoli
Yn ystod cyfarfod llawn o’r Senedd ddydd Mawrth (Tachwedd 10) cyfeiriodd Delyth Jewell at astudiaeth oedd yn dangos mai dim ond 50% oedd yn gwybod bod y cyfrifoldeb am Addysg wedi’i ddatganoli, a dim ond 49% oedd yn gwybod mai Llywodraeth Cymru – nid Llywodraeth Prydain, sy’n gyfrifol am y Gwasanaeth Iechyd.
Awgrymodd yr astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd hefyd mai dim ond 6% o’r boblogaeth sydd yn darllen papurau newydd Cymru, tra bod y ffigwr cyfatebol yn yr Alban yn 46%.
Mewn ymateb i hyn, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ei fod wedi bod yn her erioed i ddangos arwyddocâd datganoli yng Nghymru.
Cytunodd i gydweithio â phleidiau eraill i godi ymwybyddiaeth am ddemocratiaeth Cymru cyn etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf.
Ond yn ôl y Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol, mae anwybodaeth am ddatganoli yn gwbl anochel ac y byddan nhw yn parhau tra bod cwmnïau o Loegr a Llywodraeth Prydain yn gwneud penderfyniadau am sut i reoleiddio’r cyfryngau yng Nghymru.
‘Cyfryngau Cymreig go-iawn’
Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol:
“Rydym yn galw ar ein Llywodraeth i gefnogi datganoli pob pŵer dros ddarlledu a chynorthwyo i greu prosiect cyfryngau o ansawdd cychwynnol i’n cenedl ar draws pob platfform lle mae’r penderfyniadau’n cael eu gwneud yng Nghymru… ac i Gymru.
“Mae’n hanfodol bod y cyfryngau yng Nghymru, yn yr iaith Saesneg yn ogystal ag ein cyfryngau Cymraeg, yn dod yn gyfryngau Cymreig go-iawn.
“Blaenoriaethau cyffredinol cwmnïau o Loegr ac America – sy’n gwasanaethu ein cynnwys i ni – yw parhau eu helw a pheidio â sicrhau bod gan Gymru strwythur cyfryngau sy’n adlewyrchu ei balchder a’i huchelgeisiau fel cenedl.
“Mae argyfwng Covid-19 wedi dangos yr anawsterau yn berffaith yn yr ystyr bod dull strategol Llywodraeth Cymru wedi cael ei wasanaethu’n wael gan gwmnïau cyfryngau o Loegr sy’n cyhoeddi ac yn darlledu yng Nghymru, ac sydd wedi drysu’r neges yn rheolaidd heb feddwl am y gwahaniaethau sylweddol o safbwynt polisi sy’n berthnasol mewn cenedl ddatganoledig.
“Os oes unrhyw beth erioed wedi tynnu sylw at yr angen i rywbeth gael ei wneud i gyfreithloni ein tirwedd cyfryngau yr ochr hon i’r ffin, yna dyma ydyw mae’n siŵr.”