Mae’r ddarlledwraig, Angharad Mair, a’r newyddiadurwr, Eifion Glyn, yn rhan o gorff annibynnol a fydd yn ceisio creu patrwm ar gyfer rheoleiddio darlledu yng Nghymru.

Mae’r ‘Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol’ hefyd yn cynnwys enwau cyfarwydd eraill o’r byd darlledu, gan gynnwys y cynhyrchydd teledu, Nia Ceidiog; y cyfarwyddwr a’r cynhyrchydd Euros Lewis, a’r cyn-uwch- gynhyrchydd gyda Radio Cymru, Rhisiart Arwel.

Bwriad yr grŵp, a gafodd ei lansio gan Gymdeithas yr Iaith rai wythnosau yn ôl, fydd “creu strwythur rheoleiddio addas ar gyfer Cymru”, gan ddatblygu polisïau ar gyfer y maes darlledu yng Nghymru.

Fydd gan y Cyngor ddim grym ond fe fyddan nhw’n cynnig syniadau a chyhoeddi adroddiadau.

‘Hanesyddol’

“Mae’n ddiwrnod hanesyddol yn y broses o ddatganoli pwerau darlledu i Gymru”, meddai llefarydd ar ran y Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol.

“Mae safon aelodau cyntaf y Cyngor hwn yn arbennig ac yn dangos dyfnder y dalent, y brwdfrydedd a’r profiad y gallwn ni fanteisio arno yng Nghymru.

“Bydd y bobol hyn yn fwy na pharod ac abl i reoleiddio darlledu a chyfathrebu. Mae’r cyhoedd eisiau gweld penderfyniadau dros ddarlledu yng Nghymru yn cael eu gwneud gan bobol Cymru.”

  • Naw aelod sydd yna i’r Cyngor er fod bwriad ar un adeg i gael 12 – y gweddill yw Marc Webber, newyddiadurwr digidol; Phil Stead, Cyfarwyddwr Digidol Cwmni Da; Owain Gwilym, darlledwr a cherddor; Alun Jones Williams, band Bwncath. Roedd y Gymdeithas hefyd wedi gobeithio codi digon o arian i dalu cyflog swyddog ar gyfer y Cyngor.