Fe fydd dwy dref yng Nghymru’n rhan o brosiect i fesur newid hinsawdd a’i effeithiau ac i chwilio am ffyrdd o gynhyrchu ynni o Fôr Iwerddon.
Mae tua £1.2 miliwn o arian yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei roi at y prosiect sydd ar y cyd rhwng Cymru ac Iwerddon.
Aberdaugleddau a Doc Penfro yw’r ddwy dre’ Gymreig, gyda gwaith tebyg yn cael ei wneud yn nhrefi Rush a Portrane yn Iwerddon.
Yn ôl y cyhoeddiad gan lywodraethau’r ddwy wlad, fe fydd pobol leol yn cael eu hannog i gasglu gwybodaeth a data am effeithniau newidn yn yr hinsawdd ac i “gymryd rhan weithgar” wrth addasu eu cymunedau.
Mae nifer o gyrff ar ddwy ochr y môr, gan gynnwys tair prifysgol, yn rhan o’r bartneriaeth, sy’n digwydd o dan raglen nawdd Iwerddon Cymru.