Mae dros 50 o fyfyrwyr wedi eu dirwyo am fynychu parti anghyfreithlon, yn groes i reolau Covid-19.

Bu parti yn un o neuaddau preswyl Prifysgol Metropolitan Caerdydd, er bod y rheolau yn gwahardd torf fawr rhag casglu dan do.

Fe gafodd y parti anghyfreithlon ei gynnal ar ddydd Gwener, Tachwedd 6, mewn fflat myfyriwr.

Fe gafodd 52 o fyfyrwyr ddirwy o £60 yr un.