Mae Dirprwy Ysgrifennydd Cymru wedi dweud bod “lle i’r dosbarth canol addysgedig i annog pobl i wneud yn well” wrth siarad Cymraeg.

Roedd David Davies, AS Mynwy, yn ymateb i sylwadau gan Gadeirydd S4C yn rhifyn Tachwedd 5 o gylchgrawn Golwg.

Fe ddywedodd Rhodri Williams mai’r hyn sy’n ei wylltio fwyaf, o safbwynt dyfodol yr iaith, yw’r “garfan o bobol yng Nghymru – dosbarth canol, addysgedig – sydd wedi ceisio gwthio eu syniadau personol nhw ynglŷn â chywirdeb ieithyddol, ar bawb arall”.

Daeth Rhodri Williams yn Gadeirydd S4C ym mis Ebrill eleni, ond ar droad y ganrif bu yn Gadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg rhwng 1999 a 2004.

A chyn hynny, yn y 1990au, roedd yn aelod o’r Bwrdd wrth iddyn nhw sefydlu Mentrau Iaith ledled y wlad, er mwyn ceisio diogelu’r Gymraeg fel iaith gymunedol.

“Niwed aruthrol”

Ac wrth drafod yr ymdrechion i achub yr iaith, roedd gan Rhodri Williams farn bendant ar bobol sy’n beirniadu safon iaith pobol eraill.

“Yng nghyd-destun y Gymraeg a’r pethau sy’n ymwneud â’r Gymraeg, beth sy’n fy ngwylltio i yw pobol yn siarad ar eu cyfer, gan anwybyddu unrhyw fath o ymchwil neu farn arbenigol ynglŷn â chywirdeb ieithyddol,” meddai Rhodri Williams.

“Mae o wedi bod yn obsesiwn gen i erioed, i ddweud y gwir…

“Ac mae yna garfan o bobol yng Nghymru – dosbarth canol, addysgedig – sydd wedi ceisio gwthio eu syniadau personol nhw ynglŷn â chywirdeb ieithyddol, ar bawb arall.

“Ac mae’r niwed maen nhw wedi ei wneud yn aruthrol.”

“Mae lle i’r dosbarth canol addysgedig”

Mewn llythyr yn rhifyn yr wythnos yma o gylchgrawn Golwg, mae Dirprwy Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi ymateb i sylwadau Cadeirydd S4C.

Mae David Davies yn dweud bod “lle i’r dosbarth canol addysgedig,” ac yn galw ar y Wasg a’r cyfryngau Cymraeg i osod esiampl.

Dyma gynnwys y llythyr:

‘Dw i’n hapus bod Rhodri Williams ddim yn rhy llym dros safon yr iaith.

Efallai doedd o ddim yn rhy feirniadol o fy Nghymraeg i, pan wnes i gwrdd â fe wythnos diwethaf.

Er bod hi’n bwysig bod pawb yn teimlo yn gyffyrddus gan ddefnyddio unrhyw safon o Gymraeg, mae’n bwysig hefyd bod dysgwyr, fel fi, yn ceisio gwella trwy’r amser.

Felly mae lle i’r “dosbarth canol addysgedig” i annog pobl i wneud yn well.

Mae yn bwysig bod S4C, Golwg a chyfryngau Cymraeg eraill yn gosod safonau uchel.’

 

Bu trafodaeth frwd am sylwadau Rhodri Williams ar wefan twitter hefyd: