Mae Covid-19 ar gynnydd ymysg y gymuned amaethyddol ym Mhowys a nifer o achosion diweddar yn gysylltiedig â lleoliadau gwledig, gan gynnwys safleoedd amaethyddol.

Yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru mae 1,168 o achosion o’r feirws wedi’u cofnodi yn y sir ers dechrau’r pandemig.

Cafodd 165 o’r achosion rheini eu cofnodi’r wythnos ddiwethaf.

O ganlyniad i hyn mae Cyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn annog eu cymunedau gwledig i fod ar eu gwyliadwriaeth, a pharhau i ddilyn canllawiau pellter cymdeithasol i arafu lledaeniad y feirws.

Effaith ar economi ac addysg

“Rydym wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion ym Mhowys lle mai llwybr yr haint yw’r cyswllt cymdeithasol yn y gymuned ffermio,” meddai Stuart Bourne, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus ar ran Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

“Mae’r achosion hyn wedi cael effaith arwyddocaol ar ein heconomi a hefyd ar addysg gan fod nifer o ddisgyblion yn gorfod hunanynysu fel cysylltiadau sydd wedi’u cadarnhau.

“Gan ein bod yn byw mewn ardal anghysbell neu wledig, gall fod yn demtasiwn i feddwl na fydd Coronafeirws yn ein cyrraedd.

“Ond, gall coronafeirws effeithio ar unrhyw un.

“Mae pobl mewn pentrefi a chymunedau ffermio ym Mhowys yn dal y feirws, ac maen nhw’n ei drosglwyddo ymlaen i eraill.”

Undeb Amaethyddol yn erfyn ar ffermwyr

Mae Llywydd Undeb Amaethyddol NFU Cymru, John Davies, wedi ategu’r neges y dylid dilyn y canllawiau ym mhob agwedd o fywyd amaethyddol.

“Wrth fynd i farchnadoedd neu arwerthiannau da byw a thra’n cynnal unrhyw faterion busnes angenrheidiol, dilynwch y cyfarwyddyd Covid perthnasol a luniwyd gan weithredwyr unigol,” meddai.

“Mae bygythiad coronafeirws wedi dod i’r wyneb yn ein cymunedau gwledig ac rwy’n annog pawb i gydymffurfio â chadw pellter cymdeithasol, golchi dwylo yn rheolaidd a gwisgo gorchudd wyneb.

“Rwy’n erfyn ar bawb i gadw’n ddiogel.”