Mae cwmni trelars wedi adeiladu clinig symudol er mwyn profi cleifion am Covid-19 yn y gogledd.

Roedd meddygfa yng Nghorwen, Sir Ddinbych, angen ardal glinigol ar wahân i asesu cleifion sydd â symptomau coronafeirws.

Mae cwmni trelars Ifor Williams hefyd wedi creu ramp pwrpasol fel bod pobol anabl yn cael mynediad rhwydd i’r clinig.

Ramp pwrpason i gleifion sydd ag anabledd

“Hynod hael”

Yn ôl cwmni trelars Ifor Williams, sydd â ffatrïoedd yng Nghorwen a Chynwyd, roedd y prosiect yn agos at eu calonnau gan fod nifer o gleifion y feddygfa yn gweithio i’r cwmni.

Dywedodd un o’r ddau feddyg teulu yn y feddygfa yng Nghorwen, Dr Graham Thomas, fod rhoi’r clinig symudol yn weithred “hynod hael” gan y cwmni.

“Rydyn ni’n gwneud pob ymdrech i gadw pobol yr amheuir eu bod â Covid allan o’r adeilad, er mwyn osgoi peryglu ein staff, ac mae rhai ohonynt yn cysgodi am eu rhesymau iechyd eu hunain,” eglurodd y meddyg.

“Dyna pam y gwnaethon ni gysylltu efo Ifor Williams Trailers. Roeddem yn awyddus iawn i gael rhyw fath o uned ar wahân i’r prif adeilad lle gallem weld pobl a allai fod â Covid.

“Hyd yn oed rŵan, mae’n debyg bod tua hanner y bobl sydd â’r feirws heb unrhyw symptom o gwbl, ond mi allan nhw drosglwyddo’r haint i eraill. Felly mae cael uned ychwanegol yn golygu y gallwn ni gadw’r prif adeilad mor ddiogel â phosib.”

Dr Jennifer Liddell yn ystod ymgynghoriad meddygol

Meddygfeydd teulu eraill yn dangos diddordeb

Datgelodd rheolwr y feddygfa, Julie Rose, fod meddygfeydd teulu eraill wedi dangos diddordeb mewn cael clinig symudol.

“Mae’n berffaith ac rwy’n mawr obeithio y bydd y syniad yn gafael, oherwydd mae’n wych,” meddai.

“Mae Ifor Williams Trailers wedi bod yn rhagorol yn y ffordd y maen nhw wedi ymateb.

“Rydyn ni wedi bod i’r ffatri ddwywaith ac maen nhw wedi gwneud popeth yn ôl ein manyleb…

“Rwy’n credu bod hyn yn ffantastig i’r gymuned ac rydw i wedi fy mhlesio’n arw.”

“Hapus iawn ein bod wedi gallu helpu’r feddygfa”

Dywedodd cydlynydd prosiectau’r cwmni trelars, Lois Wynne: “Trwy weithio ar y cyd â’r feddygfa, rydym wedi gallu deall yr heriau y maen nhw’n yn eu hwynebu a helpu i ddylunio datrysiad a ddylai gael effaith gadarnhaol ar staff clinigol a chleifion fel ei gilydd.

“Mae gweithio gyda Dr Thomas, Dr Jennifer Liddell a Julie Rose wedi bod yn fraint, ac rydym yn hapus iawn ein bod wedi gallu helpu’r feddygfa yng Nghorwen a’n cymuned leol.”