Mae plaid wleidyddol GWLAD wedi cysylltu ar frys gyda Chymdeithas yr Iaith er mwyn ceisio cael eglurder wedi i’r gymdeithas restru’r blaid ymhlith nifer o bleidiau ‘asgell-dde eithafol’ na fyddan nhw’n ymwneud â nhw.

Yn ogystal â phlaid GWLAD, mae Cymdeithas yr Iaith hefyd yn gwrthod ymwneud â’r BNP, Britain First, UKIP a Phlaid Brexit.

Yn ôl y cynnig ‘Ymwneud â phleidiau gwleidyddol’ a gafodd ei gyflwyno gan Senedd Cymdeithas yr Iaith mae’r gymdeithas “yn credu mewn creu cymdeithas gynhwysol, sy’n croesawu pobol i’n gwlad waeth bynnag eu cefndir a hunaniaeth”.

“Hurt”

“Mae’n hurt bod Cymdeithas yr Iaith yn ein cyplysu ni, plaid genedlaetholgar Gymreig, gyda phleidiau Prydeinig megis UKIP, y Brexit Party a For Britain,” meddai Gwyn Wigley Evans, Arweinydd GWLAD.

“Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gwneud camgymeriad fan hyn, ond dyna ni mae pawb yn gwneud y rheini o dro i dro. Ond ddylai’r camgymeriad ddim cael ei ail-adrodd.

“Byddwn yn gofyn iddyn nhw’n garedig i esbonio eu penderfyniad a chynnig esiamplau penodol o enghreifftiau o feddylfryd ‘asgell- dde eithafol’ ganom.

“Does dim tir cyffredin rhyngom ni, plaid sydd eisiau annibyniaeth i Gymru, a’r rhain sydd eisiau diddymu’r Senedd.”

Eithrio pobol o’r sgwrs

Ychwanegodd Gwyn Wigley Evans ei bod hi’n drist bod Cymdeithas yr Iaith wedi dewis eu heithrio.

“Ar adeg pan fo’r sgwrs genedlaethol yn dechrau gafael yma go-iawn, mae’n drist iawn bod Cymdeithas am eithrio pobol o’r sgwrs fyrlymus hon,” meddai.

“Yn wyneb y diffyg tystiolaeth i gadarnhau’r cyhuddiadau, yr unig gasgliad rhesymol y gall dyn ddod iddo ydi mai rhesymau gwleidyddol sydd wrth wraidd y polisi hwn.

“Bod rhywrai neu’i gilydd wedi dwyn dylanwad ar Gymdeithas yr Iaith i ddilyn y trywydd hwn at ddibenion gwleidyddol, gyda golwg ar Etholiad Cymru yn 2021.

“Does dim rhaid meddwl yn galed ynghylch pwy sydd dan sylw yma, o gofio am eu cysylltiad agos gyda Chymdeithas yr Iaith.”

Ymateb Cymdeithas yr Iaith

Mewn ymateb i sylwadau Gwyn Wigley Evans, mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynnu wrth golwg360 fod plaid GWLAD yn “hybu safbwyntiau rhagfarnllyd [ac] ideoleg adain dde eithafol”.

“Yn dilyn trafodaeth, pleidleisiodd aelodau Cymdeithas yr Iaith yn ein Cyfarfod Cyffredinol i beidio ag ymwneud â phleidiau gwleidyddol sy’n hybu neu’n goddef ideoleg adain dde eithafol neu agweddau rhagfarnllyd,” meddai Mabli Siriol, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.

“Roedd y penderfyniad hwn yn cynnwys y blaid Gwlad, oherwydd datganiadau cyhoeddus gan y blaid a’u haelodau blaenllaw sydd wedi hybu safbwyntiau rhagfarnllyd a mynd yn groes i gyfiawnder i grwpiau dan orthrwm.

“Galwodd y cynnig yn ogystal ar holl bleidiau Cymru i gymryd camau rhagweithiol i addysgu eu haelodau am bwysigrwydd cydraddoldeb a herio agweddau rhagfarnllyd lle mae’r rhain yn codi. Byddem yn croesawu ymdrechion mudiadau a phleidiau fydd yn gwneud hyn.

“Mudiad annibynnol, democrataidd ydyn ni, sy’n cael ein gyrru gan ewyllys ein haelodau a’n gweledigaeth o Gymru rydd, Gymraeg, gyfiawn. Ein blaenoriaeth dros y flwyddyn i ddod fydd ymgyrchu i sicrhau bod Llywodraeth nesaf Cymru yn gweithredu ar y weledigaeth yn ein dogfen etholiadol Mwy na Miliwn: Dinasyddiaeth Gymraeg i Bawb.”