Mae mwy o ferched yn cymhwyso i weithio yn y diwydiant cig ac mae un o golegau’r gogledd yn dweud bod y cynnydd yn “ysbrydoledig”.

Mae’r corff sy’n dyfarnu cymwysterau trin bwyd wedi datgelu bod 18% o’u hasesiadau cigyddiaeth wedi eu cyflawni gan ferched, gyda’r ffigurau’n parhau i gynyddu.

Tan yn ddiweddar, roedd y nifer o ferched a oedd yn dechrau gyrfaoedd mewn cigyddiaeth, prosesu a dosbarthu yn llai na 10%, yn ôl y corff

Ond gyda cholegau ledled Prydain yn cynnig cyrsiau mewn amrywiaeth o swyddi trin cig, mae’r nifer o ferched sy’n gweithio yn y diwydiant yn cynyddu.

Mae Coleg Cambria ymysg y rhai sydd wedi gweld cynnydd, ac mae un o’i fyfyrwyr bellach yn gweithio yn oruchwyliwr mewn ffatri prosesu cig ar Ystâd Rhug, Sir Ddinbych.

“Fi yw’r unig ferch mewn tîm o 14 o bobl yn y ffatri torri cig, a oedd yn frawychus i ddechrau, ond rydw i’n ffodus bod pawb yn hynod o gefnogol, ac rydyn ni’n gweithio’n dda gyda’n gilydd,” meddai Esther Dyke.

“Yn sicr, nid yw’r stereoteip o ffatri sy’n cael ei rheoli gan ddynion yn wir yma, ac mae’n sefydliad blaengar ac rwy’n falch o fod yn rhan ohono.”

Annog merched eraill i weithio yn y diwydiant

“Roeddwn i’n gweithio yma fel paciwr cig wrth astudio Cymdeithaseg yn y brifysgol yn Lerpwl, felly roedd fy ngyrfa yn mynd i gyfeiriad gwahanol,” eglura Esther Dyke.

“Ond pan wnes i ddod yn ôl cefais i gynnig swydd fel goruchwyliwr ac roedd yn gyfle gwych. Mae hwn yn fusnes gwych gyda diwylliant sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd a chynnyrch organig, lle mae cwsmeriaid ledled y wlad wedi gwneud y mwyaf ohonynt.

“Ac mae gweithio gyda’r cynnyrch cig o’r ansawdd gorau yn eich llenwi â balchder, mae’n werthfawr bod yn rhan ohono ac rwy’n sicr yn annog merched eraill i ystyried gyrfa yn y sector hwn.”

Mae Gary Jones, Rheolwr Cynnyrch yn Ystâd Rhug, wedi canmol cynnydd Esther Dyke:

“Ymunodd Esther â Rhug fel myfyriwr yn gweithio yn ystod y gwyliau fel paciwr cig. Bellach mae’n aelod gwerthfawr o staff ac wedi’i dyrchafu i oruchwyliwr ac mae’n gwneud gwaith gwych.”

“Ysbrydoledig”

Dywedodd Kate Muddiman, Rheolwr ar gyfer Cymwysterau yn y Gwaith y Diwydiant Bwyd yn y coleg: “Gydag amrywiaeth o bosibiliadau cyllid ar gael ar hyn o bryd i gefnogi hyfforddiant, mae gennym ni gyfleoedd gwych i bobl wella eu sgiliau yn y diwydiant bwyd.

“Rydyn ni’n gweld cynnydd yn y nifer o ferched sy’n dilyn cymwysterau yn y sector gweithgynhyrchu bwyd, ac mae hyn yn ysbrydoledig.

“Mae nifer fawr o opsiynau gyrfa yn y sector hwn ac mae sawl maes yn y diwydiant gweithgynhyrchu bwyd yn brysurach nag erioed bellach.”